Bwriad i gau tair ysgol gynradd yn Sir Gâr yn 2026

Protestwyr tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Gâr fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yng Nghaerfyrddin wedi pleidleisio o blaid ymgynghori ar y posibilrwydd o gau dwy ysgol gynradd ac i fwrw ymlaen â chau trydedd y flwyddyn nesaf.
Bydd ymgynghoriadau ar ddyfodol Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn ac Ysgol Meidrim yn cael eu cynnal am chwe wythnos o 13 Ionawr tan 24 Chwefror, ac mi allai'r ddwy gau ym mis Rhagfyr 2026 os ydy'r cyngor yn bwrw ymlaen gyda'r cynllun.
Yn ôl ystadegau'r cyngor mae 31 o ddisgyblion yn Ysgol Meidrim, sydd â chapasiti ar gyfer 54, a 15 yn Ysgol y Fro, sydd â chapasiti ar gyfer 46.
Penderfynodd aelodau'r cabinet i gyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Llansteffan ddiwedd Gorffennaf 2026.
Mae'r cyngor yn dweud bod yna wyth o ddisgyblion yn Ysgol Llansteffan ond mae'r rhieni yn dweud bod y niferoedd wedi cynyddu i 14 ers i'r arolwg gael ei gynnal.
Mae'r tair yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Wyth disgybl oedd wedi cofrestru yn Ysgol Llansteffan yn ôl yr asesiad diweddaraf
Roedd Ysgol Pontiets hefyd i fod i gael ei thrafod yng nghyfarfod y cabinet, ond penderfynodd y cabinet i ohirio unrhyw ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol honno.
Mewn perthynas â'r tair ysgol arall, fe wnaeth adroddiad i'r cabinet amlygu'r heriau y mae pob un ohonynt yn eu hwynebu, sy'n cynnwys – "niferoedd disgyblion isel iawn" a nifer uchel o lefydd gwag, gyda "thebygolrwydd bach y bydd niferoedd disgyblion yn cynyddu'n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf".
Clywodd y cynghorwyr hefyd fod nifer uchel o ddisgyblion yn nalgylch yr ysgolion hyn sy'n mynd i ysgolion mewn ardaloedd eraill.
Roedd y diffyg yng nghyllideb y cyngor hefyd yn ffactor yn y penderfyniad gyda'r adroddiad yn dweud bod disgwyl arbedion refeniw blynyddol o dros £275,000 pe bai'r tair ysgol yn cau.

Mae bwriad i gau Ysgol Meidrim er bod dros 30 o blant wedi eu cofrestru yno
Fore Llun siaradodd y Cynghorydd Meinir James o ward Llangyndeyrn o blaid ei hysgol leol a dywedodd fod ganddi bryderon, pe bai'n cau, y byddai'r disgyblion yn cael eu trosglwyddo i ysgol arall ym mis Ionawr 2027.
Dywedodd y byddai eu symud yng nghanol blwyddyn ysgol "yn niweidiol iddynt."
Ychwanegodd fod Ysgol y Fro yn ysgol fach, wledig lle clywir y Gymraeg fel iaith naturiol ar yr iard - byddai symud y plant i ysgol fwy, mewn ardal drefol yn newid mawr i'r disgyblion, meddai.
Dywedodd y Cynghorydd James na fyddai unrhyw arian a arbedir o gau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ddiffyg y cyngor a galwodd ar aelodau'r cabinet i wrthod y cynnig i ymgynghori ar ddyfodol Ysgol y Fro.

Cafodd y broses i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Poniets ei hatal am y tro
Siaradodd y Cynghorydd Jean Lewis o ward Trelech o blaid Ysgol Meidrim gan ddweud nad oedd pob dewis arall yn lle cau wedi cael eu hystyried yn llawn ac ychwanegodd mai dim ond tua £13,000 fyddai'n cael ei arbed o'i chau.
Dywedodd fod hynny'n "swm bach iawn o'i gymharu â'r effaith niweidiol ar y gymuned leol".
Ar ôl i'r Cynghorydd Lewis siarad cafwyd cymeradwyaeth gan gefnogwyr yr ysgolion a oedd yn siambr y cyngor.
Pleidleisiodd aelodau'r cabinet dair gwaith ar wahân ar y cynnig ar gyfer pob ysgol unigol – bob tro roeddent yn unfrydol yn eu cefnogaeth i'r cynigion.
Trafodaethau ag ysgolion 'heb ddigwydd yn iawn'
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran rhanbarth Sir Gâr o Gymdeithas yr Iaith: "Ni ddylai'r cabinet fod wedi pleidleisio dros ymgynghoriad ar ôl cyfaddef nad oedd y cam cychwynnol statudol o drafod gyda'r ysgolion, sy'n cael ei alw'n gam 0, heb ddigwydd yn iawn.
"Roedd yr adroddiadau gan swyddogion y cyngor yn dweud yn glir na ddylent awdurdodi ymgynghoriad na hysbysiad statudol heblaw eu bod yn sicr mai dyna'r opsiwn gorau.
"Bydd y gwaith paratoi i sicrhau ymatebion i'r ymgynghoriadau a gwrthwynebiadau i'r hysbysiad statudol i gau yn digwydd yn syth, ar y cyd â'r tair ysgol."
'Y broses ymgynghori heb ddechrau'
Dywedodd Glynog Davies, aelod cabinet Sir Gâr sydd â chyfrifoldeb am addysg: "Does dim proses ymgynghori wedi dechrau – [ry'n ni wedi] siarad.
"[Mae cyfle i'r ysgolion] roi eu barn i ni, cyfle iddyn nhw i gyflwyno syniadau amgen i ni ac ry'n ni wedi derbyn hynny gan rai ysgolion, ddim gan eraill.
"Er i ni dderbyn gwybodaeth hwyr gan un ysgol... mi fyddwn ni yn ystyried y cyfan – os ydyn ni wedi bod ar fai, os ydyn ni felly i gael beirniadaeth adeiladol fe wnewn ni roi ystyriaeth i hynny er mwyn i ni fod yn gwbl glir yn y dyfodol ac yn gwbl dryloyw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref
