Ffyrdd: Cynghorau'n benthyca £60m
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorau'n benthyca £60m oddi wrth Lywodraeth Cymru eleni fel bod modd atgyweirio ffyrdd.
Mae disgwyl i'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, gyhoeddi manylion pob cyngor yng Nghasnewydd ddydd Llun.
O fewn tair blynedd bydd £170m yn cael ei wario ar gynnal a chadw priffyrdd.
Mae swyddogion cynghorau wedi dweud bod yr arian yn "hwb enfawr" i gyllidebau trafnidiaeth pan fo'r esgid yn gwasgu.
Bydd yr ad-daliadau'n costio £240m i'r llywodraeth dros gyfnod o 22 o flynyddoedd.
Patrwm
Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol y gallai benthyca o'r fath fod yn batrwm ar gyfer y dyfodol.
"Rhaid asesu sut mae hyn yn gweithio," meddai'r cyfarwyddwr adfywio, Tim Peppin, "ond mae modd ei ddefnyddio mewn meysydd eraill".
"Mae rhai wedi dweud eu bod yn poeni, ond mae byd o wahaniaeth rhwng ariannu treuliant a benthyca er mwyn hybu seiliau'r economi."
Dywedodd Ms Hutt: "Y nod yw helpu cynghorau i ddelio â phroblemau refeniw fel y bydd buddsoddi cyfalaf ar briffyrdd."
900 o swyddi
Byddai £60m o wariant cyfalaf eleni, meddai, yn creu neu ddiogelu tua 900 o swyddi.
"Heb ein help, ni fyddai'r cynghorau'n gallu fforddio buddsoddi."
Er gwaetha'r toriadau yn eu cyllideb, meddai, byddai'r llywodraeth yn "achub unrhyw gyfle cost-effeithiol i gynyddu buddsoddi cyfalaf."
Mae Plaid Cymru wedi dweud nad yw'r llywodraeth yn defnyddio gwario cyfalaf i hybu'r economi.