Abertawe 1-0 Lerpwl

  • Cyhoeddwyd
Danny Graham yn dathlu
Disgrifiad o’r llun,

Danny Graham yn dathlu wrth sgorio 100 o goliau

Danny Graham chwalodd obeithion Lerpwl yn Stadiwm y Liberty wrth i Abertawe ennill 1-0.

Sgoriodd ei ganfed gôl pan oedd llai na phum munud o'r gêm yn weddill.

Ar ôl hanner awr arbedodd Alexander Doni wedi cic gornel fedrus Gylfi Sigurdsson. Ergyd Leon Britton aeth heibio'r postyn.

Funud yn ddiweddarach saethodd Andy Carroll o du allan i'r blwch cosbi. Ofer oedd ei ymdrech.

Roedd Doni'n brysur eto wrth arbed ergyd Neil Taylor cyn i Caroll saethu dros y traws. Digon o ddrama o un pen y cae i'r llall.

Pwyso

Roedd yr Elyrch yn pwyso ac arbedodd Doni wedi i Nathan Dyer anelu at y gôl. Saethodd Sigurdsson ond Rodriguez Maxi lwyddodd i rwystro.

Wedyn trodd y llanw. Llwyddodd Caulker i atal ymdrech Carroll ac wedi i Downing gymryd cic gornel Sigurdsson oedd yr un gliriodd. Anadlodd cefnogwyr Abertawe anadl o ryddhad.

Ar ôl 55 munud arbedodd Vorm ergyd Carroll.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen yn ymladd am y bêl yng nghanol y cae

Pan saethodd eilydd Lerpwl, Dirk Kuyt, Ashley Williams lwyddodd i flocio. Pan saethodd Sinclair, Carragher lwyddodd i flocio.

Chwe munud cyn y diwedd ergydiodd Suarez ond Ashley Williams ddaeth i'r fei.

Cyn y gêm dywedodd rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, y byddai buddugoliaeth yn arwydd o waith caled y clwb drwy gydol y tymor. Gwir y gair.

Abertawe: Vorm, Williams, Taylor, Caulker, Rangel, Britton, Sinclair, Dyer, Allen, Sigurdsson, Graham;

Eilyddion: Tremmel, Tate, Monk, Routledge, Gower, Gwion Edwards, Moore;

Lerpwl: Doni, Johnson, Agger, Carragher, Kelly, Maxi, Henderson, Downing, Shelvey, Suarez, Carroll;

Eilyddion: Jones, Jose Enrique, Coates, Spearing, Sterling, Kuyt, Bellamy.

Torf: 20,605

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol