Brendan Rodgers yn hapus yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Brendan RodgersFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brendan Rodgers ei fod yn hapus yn Abertawe

Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, yn mynnu ei fod yn hapus yn y clwb ac mai ei her yw sefydlu Abertawe fel tîm yn yr Uwchgynghrair.

Daw ei sylwadau cyn i'r Elyrch deithio i wynebu Tottenham Hotspur ddydd Sul.

Mae Rodgers, 39 oed, wedi cael ei ganmol am lwyddiant y clwb gafodd ddyrchafiad o'r Bencampwriaeth y llynedd.

Mae'r rheolwr wedi cael ei gysylltu gyda swydd rheolwr Tottenham yn yr haf wrth i Harry Redknapp gael ei gysylltu gyda swydd rheolwr Lloegr.

Wrth gael ei holi ar raglen Sportsweek Radio 5 Live, dywedodd Rodgers ei fod "yn hapus yn Abertawe".

"Dwi wrth fy modd yma, dwi mewn clwb yn yr Uwchgynghrair.

"Dwi am i ni orffen mor uchel â phosib."

Gyrfa hir

Dywedodd cyn rheolwr Reading a Watford ei fod eisiau cystadlu am dlysau rhywbryd yn ei yrfa ond nad oedd mewn unrhyw frys i adael Yr Elyrch.

"Fe fydd pob rheolwr yn dweud wrthoch chi yr un peth," meddai.

"Dwi wedi ffeindio clwb sy'n berffaith ar fy nghyfer i.

"Dwi'n 39 oed ac yn gobeithio cael blynyddoedd eto ac efallai cael y cyfle yn y dyfodol i ennill tlysau.

"Os dwi'n credu fy mod wedi gwneud yr hyn alla i efo clwb yna fe fyddai'n eistedd i lawr i drafod gyda'r rheolwr."

Wrth fynd i White Heart Lane ddydd Sul mae Abertawe yn y 10fed safle wedi iddyn nhw gael buddugoliaethau yn erbyn Manchester City ac Aresenl yn ystod y tymor a chael gemau cyfratal yn erbyn Chelsea a Lerpwl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol