Cymdeithas y BMA yn dweud bod blaenoriaethau uwch na'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Feddygol y BMA wedi dweud na ddylai'r Gymraeg fod yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth iechyd mewn cyfnod o gyni.
Roedd y gymdeithas yn ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru i hybu defnydd o'r Gymraeg gan staff.
Yn ôl y BMA mi ddylai'r pwyslais yn hytrach fod ar agweddau meddygol y gwaith.
Mewn datganiad fe bwysleisiodd Llywodraeth Cymru bod gallu siarad Cymraeg wrth dderbyn triniaeth neu ofal cymdeithasol yn hanfodol i rai cleifion.
Yn ôl eu fframwaith strategol - Mwy na Geiriau - un ffordd o gryfhau'r ddarpariaeth bresennol yw cyflogi mwy o staff sy'n medru'r iaith.
Ond mae'r awgrym hynny wedi arwain at rybudd gan y BMA.
Prinder staff
"Mae rhaid defnyddio arian y gwasanaeth iechyd at drin iechyd," meddai Dr Phil White, o'r gymdeithas.
"Yn y bôn, mae'r gwasanaeth iechyd yma ar gyfer iechyd y boblogaeth a dyna ddylai gymryd y flaenoriaeth.
"Da ni'n cael digon o drafferth yn enwedig yn y gogledd i ddenu meddygon.
"Ond os byddech chi yn rhoi ym mhob hysbysiad bod angen siarad y Gymraeg neu hyd yn oed bod gwybodaeth o'r Gymraeg yn ddymunol, bydde ni mewn trafferthion gwaeth na rydyn ni ar y foment.
"Da ni ryw 10% yn brin o feddygon uwch yng ngogledd Cymru a gwneud y sefyllfa'n llawer gwaeth fydde mesur fel na."
Dywedodd llefarydd ar ran BMA Cymru Wales, eu bod yn cefnogi hawl person i dderbyn gofal yn y Gymraeg ond na ddylai gallu meddygon i siarad Cymraeg fod yn ystyriaeth ddeddfwriaethol mewn rhannau o Gymru.
'Rydym yn credu bod camau i gryfhau'r Gymraeg o fewn y gwasanaeth iechyd fod yn deg gyda'r angen i weithredu yn effeithiol.
'Os mai gwella profiad cleifion yw'r nod, fe ddylai'r llywodraeth fuddsoddi ac ymdrechu i daclo amseroedd amser."
Ymwybyddiaeth
Gofalu am ei phlant y mae Siwan Jenkins yn ystod y dydd, ond gyda'r nos mae hi'n gofalu am gleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
O'i phrofiad ar wardiau ysbyty ac o fynd a'i phlant at feddyg sy'n siarad Cymraeg mae hi'n argyhoeddedig bod gwasanaeth iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig.
"Ni wedi cal sawl sefyllfa lle ni wedi cael cleifion hŷn neu sy'n dod o gefn gwlad Cymru ... a chael diagnosis o lewcemia a lle mae'r iaith yn hollol estron iddyn nhw.
"Dwi wedi gorfod eistedd gyda nhw a chyfieithu o Saesneg i Gymraeg.
"Mae'r claf wedyn yn deall be sy'n digwydd a deall y driniaeth maen nhw mynd i gael."
Ond gydag arian yn brin mewn ysbytai a meddygfeydd led led Cymru, ai'r iaith ddylai fod yn flaenoriaeth?
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams, bod hyn gyfystyr a gwasanaethau fel methu darparu diogon o welyau.
"Er bod y BMA yn dweud falle nad yw'r Gymraeg ar frig eu blaenoriaeth, mae'n rhaid iddyn nhw sylweddoli bod methu cyfleu eich hun, neu fethu cael gwasanaeth Cymraeg ac felly methu cael y gwasanaeth priodol gyfystyr a gwasanaeth gwael arall fel methu cael gwely."
Corff arall sydd wedi bod yn ymgyrchu ac wedi darparu tystiolaeth yw Undeb yr Annibynwyr.
"Rydym wedi ein siomi'n fawr gan agwedd negyddol y BMA tuag at le'r Gymraeg mewn iechyd a gofal," meddai'r undeb.
"Credwn fod hawl sylfaenol gan bobl i gael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysbyty neu gartref preswyl yng Nghymru, mae pobl yn teimlo'n llawer mwy cysurus o gael gofal yn eu hiaith eu hunain."