Llai yn ddi-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi syrthio o fil yn y tri mis hyd at fis Mawrth.
Roedd 132,000 o bobl allan o waith trwy Gymru, sef tua 9% o'r gweithlu, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.
Trwy Brydain, roedd cwymp o 45,000 yn nifer y di-waith i 2.63 miliwn.
Ond parhau i godi mae canran y menywod sy'n ddi-waith.
Fe wnaeth 8,000 o ferched golli eu swyddi rhwng Ionawr a Mawrth, mae hynny'n cymharu â gostyngiad o 9,000 ymhlith nifer y dynion sy'n hawlio budd-dal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol