Rhaglen i wella llythrennedd yn ysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, yn cyhoeddi rhaglen genedlaethol sydd â'r nod o godi safonau llythrennedd yn ysgolion Cymru.
Bydd y rhaglen yn cael ei lansio'n ffurfiol yn Ysgol Cwm Garw ym Mhen-y-bont ar Ogwr fore Iau, ac mae'n rhestru'r camau y bydd angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn codi safonai dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y ddogfen yn cynnwys mesurau i gynorthwyo a chefnogi athrawon ym mhob pwnc, ac ar draws pob cyfnod addysg, i fod yn athrawon llythrennedd.
Mae cymorth hefyd wedi ei dargedu i ddisgyblion, datblygu profion darllen cenedlaethol a phwysleisio pwysigrwydd rhannu arferion da a'u defnyddio mewn modd sy'n gyson.
Bydd y camau gweithredu'n canolbwyntio ar y pedair thema ganlynol:
Pennu disgwyliadau a safonau cenedlaethol;
Mwy o gymorth a datblygiad;
Ymyriad mwy trylwyr wedi'u targedu'n benodol;
Mwy o atebolrwydd a her.
Cymhwyster
Fel rhan o'r cynllun, bydd gan athrawon y cyfle i wneud gwaith astudio ychwanegol wrth addysgu llythrennedd, gan gynnwys modiwl llythrennedd penodol ar gyfer y cymhwyster Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol.
Fe fydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn defnyddio'r rhaglen i sicrhau bod y gwaith o addysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn cael ei ymgorffori ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm.
Agwedd bwysig arall, medd y gweinidog, yw cyflwyno profion darllen Cymraeg a Saesneg ar gyfer disgyblion blwyddyn 2 a blwyddyn 9.
Bydd y profion yn fodd i gynnig darlun cliriach i athrawon o allu disgybl i ddarllen, ac yn cynnig modd i'w cynorthwyo drwy helpu i weld eu cryfderau a'u gwendidau unigol.
'Dim yn bwysicach'
"Mae gwella lefelau llythrennedd a rhifedd yn un o brif ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu," meddai Mr Andrews.
"Does dim yn bwysicach na sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddarllen, ysgrifennu a chyfathrebu.
"Mae enghreifftiau lu o waith addysgu a dysgu gwych ym maes llythrennedd ar draws Cymru. Mae Ysgol Cwm Garw eisoes yn arwain y ffordd drwy ddefnyddio dulliau addysgu gwahanol mewn ffordd sy'n llawn dychymyg ac mewn ffordd ddeallus.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd pob un o'n dysgwyr yn elwa ar waith addysgu llythrennedd sy'n rhagorol a'u bod yn datblygu'r sgiliau sydd mor hanfodol i'w llwyddiant yn y dyfodol.
"Bydd y Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol yn sicrhau mwy o gysondeb ac eglurder yn ein ffordd o dracio cynnydd disgyblion a hefyd yn sicrhau'r cymorth, yr her a'r atebolrwydd sydd eu hangen yn ein hysgolion ar yr un pryd."
Mewn ymateb dywedodd Owen Hathaway o undeb yr NUT bod y cynllun "yn gam positif ymlaen".
Roedd yn gobeithio y byddai'r cynllun yn rhoi mwy o eglurdeb ac arweniad i athrawon ac mae'n gobeithio y bydd yr aelodau yn derbyn y cynllun ond bod angen gweld sut y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu.
Dywedodd Dr Philip Dixon, Cyfarwyddwr Addysg undeb ATL eu bod nhw'n croesawu'r cynllun ond eu bod yn ymwybodol bod 'na lawer o waith i'w wneud cyn eu bod yn gallu bod yn hyderus bod y safon yn codi i'r safon dderbyniol.
"Rydym yn gobeithio y bydd y llywodraeth yn cadw hyn yn eu blaenoriaeth ac na fydd 'na newid polisïau ac ati yn y blynyddoedd nesaf.
"Fe fydd athrawon yn croesawu hyn os bydd yn eu caniatáu i ddysgu ac yn rhoi cefnogaeth iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd7 Mai 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012