Angen 'gweithredu brys' ar addysg
- Cyhoeddwyd
Mae sefydliad diwydiannol y CBI wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ynglŷn â chyflwr y byd addysg yng Nghymru.
Mae archwilwyr ysgolion wedi canfod bod 40% o blant yn cyrraedd ysgol uwchradd gydag oed darllen sy'n iau na'u hoed go iawn.
Mae'r CBI hefyd yn nodi ystadegau Pisa o 2010 a ddywedodd bod cyrhaeddiad disgyblion 15 oed yng Nghymru yn salach na llawer o'r byd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen gwelliannau "ar draws y bwrdd".
'Trist'
Dywedodd pennaeth polisi CBI Cymru, Emma Watkins: "Mae adroddiad Estyn yr wythnos hon ynghyd ag ystadegau Pisa yn 2010 yn rhywbeth trist i'w weld.
"Yn ôl Pisa mae Cymru ar waelod gwledydd y DU am ddarllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
"Dyma'r genhedlaeth gyntaf o blant sydd wedi cael eu haddysg i gyd o gan Lywodraeth Cymru.
"Yn amlwg mae'n cymryd amser i newid polisïau addysg, ond yn yr economi fyd-eang mae'n ras am swyddi."
Sgiliau
Ychwanegodd bod angen i'r sustem addysg ac asiantaethau cyhoeddus chwarae eu rhan.
"Mewn byd lle mae mwy a mwy o swyddi yn gofyn am sgiliau lefel tri neu uwch, mae canlyniadau Pisa ac Estyn yn ei gwneud yn glir bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i godi lefel sgiliau ein pobl ifanc," meddai.
"Bydd y CBI a'i aelodau yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru i alluogi hyn i ddigwydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gweinidog (Leighton Andrews) wedi dweud yn glir bod angen gwella safonau a pherfformiad yng Nghymru yn enwedig mewn rhifedd a llythrennedd.
"Dyna pam mae'r gweinidog wedi cyhoeddi cynllun fydd yn gosod ystod eang o fesurau mewn lle er mwyn cyflawni hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012