Galw am egluro toriadau'r fyddin

  • Cyhoeddwyd
Owen Smith
Disgrifiad o’r llun,

Dyma lythyr cyntaf Owen Smith ers cael ei ddewis i olynu Peter Hain fel llefarydd Llafur dros Gymru

Mae llefarydd newydd Llafur dros Gymru, Owen Smith AS, wedi ysgrifennu at yr ysgrifennydd gwladol ynglŷn â dyfodol y Marchfilwyr Cymreig.

Yn gynharach roedd Aelod Seneddol Wrecsam, Ian Lucas, wedi cyflwyno cyfres o gwestiynau i'r Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, yn galw ar y llywodraeth i egluro'i chynlluniau.

Mae Mr Smith wedi ymuno â'r ddadl, gan annog Cheryl Gillan i ailfeddwl am gael gwared â'r Marchfilwyr Cymreig.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud am ddyfodol y Marchfilwyr Cymreig.

'Pryderus'

Yn ei lythyr ar Mrs Gillan, dywedodd Mr Smith: "Rwy'n bryderus iawn am adroddiadau sy'n honni bod y llywodraeth yn bwriadu cael gwared â'r Marchfilwyr Cymreig fel rhan o doriadau o 20,000 o filwyr Prydain a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon.

"Rwyf yn eich annog i wneud cyflwyniadau i'r Ysgrifennydd Amddiffyn a'r Prif Weinidog gan ofyn iddyn nhw ailfeddwl.

"Mae'r Marchfilwyr Cymreig yn cael eu hystyried fel un o luoedd mwyaf blaenllaw byddin Prydain.

"Fe fyddai'n ergyd anferth i Gymru pe bai'n eu colli o ganlyniad i doriadau'r llywodraeth.

"Mae'r llywodraeth wedi newid ei meddwl am gynlluniau i ddiddymu catrodau Albanaidd, a does dim rheswm pam na ddylai unig gatrawd Cymru gael yr un warchodaeth."

Yn y cyfamser, mae Mr Lucas wedi cyflwyno tri chwestiwn i'r Ysgrifennydd Amddiffyn :-

  • Pa unedau troedfilwyr ac arfog y mae'n bwriadu diddymu a) yng Nghymru a b) yn y DU?;

  • Pa feini prawf y mae wedi eu defnyddio wrth benderfynu pa unedau i ddiddymu neu uno gydag eraill?;

  • Pryd fydd yr adolygiad o strwythur y fyddin yn debygol o ddod i ben?

Ychwanegodd Mr Lucas: "Mae angen i Philip Hammond ddatgelu'n union beth fydd effaith y toriadau yma yng Nghymru."

Ymateb

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn:

"Mae adolygiad o strwythur y fyddin i'r dyfodol yn mynd rhagddo, a does dim canlyniadau hyd yma.

"Fel y mae'r Cadfridog Sir David Richards, Pennaeth y Staff Amddiffyn, wedi dweud yn flaenorol, mae'r Fyddin yn hyderus y gall gwrdd â'r nod o 82,000 erbyn 2020.

"Mae hyn yn gydnaws gyda chytundeb rhwng yr Ysgrifennydd Amddiffyn a Phennaeth y Staff am symud yn raddol tuag at strwythur newydd i'r Fyddin fel na fydd effaith ar weithredoedd gan y newidiadau."