Yr heneb a'r ddefod
- Cyhoeddwyd
Mae archeolegwyr wedi canfod bod heneb o'r oes efydd yn Sir Benfro yn safle ar gyfer angladdau defodol.
Nôl ym 1889 mae'r cyfeiriad cyntaf ar fap at Garreg Trefael yn ardal Nanhyfer, ond tan nawr doedd neb yn sylweddoli ei gwir bwysigrwydd.
Dywed archeolegwyr fod profion yn dangos bod y safle wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer angladdau am o leiaf 5,500 o flynyddoedd.
Nawr mae ganddynt ganiatâd i godi esgyrn a darnau o lestri hynafol.
Daeth yr awgrym cyntaf bod y safle yn un pwysig ym 1972 pan wnaeth yr archeolegydd Frances Lynch awgrymu bod y Garreg yn dynodi siambr gladdu.
Oes Efydd
Yna ym Medi 2010 fe wnaeth Dr George Nash, o Brifysgol Bryste, ynghyd â Thomas Wellicome ac Adam Stanfrod ddechrau cloddio ar y safle.
Fe ddychwelodd y tri i'r safle'r llynedd.
Yn ogystal ag olion dynol fe ddaethant o hyd i gist carreg, oedd yn hanner metr o hyd ac yn debyg i arch.
Mae'r archeolegwyr yn dyfalu bod y gist wedi ei rhoi yno yn ddiweddarach yn ystod yr oes efydd.
Maen nhw hefyd o'r farn bod y safle wedi ei aildefnyddio fel man claddu ymhell ar ôl i'r siambr gerrig wreiddiol gael ei ddatgymalu.
O bosib mae'r darganfyddiad yn awgrymu mae Carreg Trefael yw un o'r safleoedd claddu neolithig cynharaf yng Nghrymu, ac un o'r rhai cynharaf yng ngorllewin Ewrop.
Dywed Dr Nash ei fod yn ymwybodol o sylwadau Lynch ym 1972, a'i fod hefyd yn gwybod nad oedd arbenigwyr wedi cloddi'r safle.
"Rwyf o hyd wedi meddwl y gallai'r safle fod yn un pwysig. Mae'n hynod o gyffrous.
Dywed Dr Nash ei fod eisoes wedi sefydlu bod y safle yn siambr gladdu yn dyddio nôl i 3,500 cyn Crist ac wedi parhau i gael ei defnyddio tan tua 2,000 cyn Crist.
Ond mae tystiolaeth bod y safle wedi cael ei defnyddio ar gyfer claddu ymhell cyn i'r siamber gladdu gael ei chodi.
Mae'n bosib fod o'n dyddio nôl 10,000 o flynyddoedd.
"Mae'r pridd yn hynod o asidaidd, felly rwyf wedi synnu pa mor dda yw cyflwr yr esgyrn a'r crochenwaith.
"Rydym wedi dod o hyd i rywbeth rhyfeddol a hynod brin."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2012