Y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyhoeddi enw milwr a laddwyd yn Afghanistan
- Cyhoeddwyd
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enw'r milwr o gatrawd y Cymry Brenhinol a gafodd ei ladd yn Afghanistan ddydd Sadwrn.
Mae'n ymddangos bod dyfais wedi ffrwydro ger y cerbyd yr oedd Capten Stephen James Healey yn teithio ynddo yn Nhalaith Helmand.
Roedd yn 29 oed ac yn wreiddiol o Gaerdydd.
Cyn graddio mewn Gwyddorau Chwaraeon o Brifysgol Abertawe roedd yn un o brentisiaid Clwb Pêl-droed Abertawe.
Roedd ar batrôl yn ardal Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand ar y pryd.
Cafodd gymorth cyntaf cyn cael ei gludo i ysbyty milwrol yn Camp Bastion lle cadarnhawyd ei farwolaeth.
Ymunodd gyda'r fyddin yn 2007 ac fe gafodd ei gysylltu gyda Bataliwn Cyntaf y Cymry Brenhinol yn 2008.
Roedd yn Afghanistan ers Mawrth 9 2012.
Teyrngedau
Roedd yn gyfrifol am Checkpoint Langar fel rhan o Dasglu Burma.
Mae'r Capten Healey yn gadael ei rieni, John a Kerry, ei frawd Simon a chariad Thea.
"Roedd Stephen yn fab, brawd, ewythr a ffrind delfrydol," meddai ei deulu.
"Fe fydd yn cael ei golli gan bob un ohonon ni.
"Fe lwyddodd i wneud llawer mewn 30 mlynedd nag y mae nifer yn ei wneud mewn oes."
Yn ei chalon
Ychwanegodd ei gariad Thea, y byddai yn ei chalon am byth.
"Fe fyddaf yn ei golli. Erbyn hyn, mae nawr mewn heddwch.
"Roedd yn byw'r bywyd yr oedd eisiau gyda'i ddynion."
Mae 415 o Brydeinwyr wedi cael eu lladd yn Afghanistan ers i filwyr Prydain fynd yno yn 2001.
"Mae'n meddyliau a'n gweddïau gyda theulu a chyfeillion y milwr ar adeg anodd iawn," meddai'r Uwch-Gapten Ian Lawrence o'r tasglu yn Helmand.
Dywedodd yr Is-Gyrnol Stephen Webb, o'r Bataliwn Cyntaf, fod y Capten Healey yn "swyddog gwych ac yn unigolyn arbennig iawn".
"Fe fydd yn cael ei gofio gan y swyddogion fel un o'r arweinwyr mwya' carismatig a phroffesiynol y bydd unrhyw un ohonon ni'n cael y cyfle i wasanaethu gyda fo."
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y bydd milwyr Prydain yn gadael Afghanistan erbyn Rhagfyr 2014.
200
Credir y gallai hyd at 200 o aelodau'r tasglu arbennig aros yn y wlad wedi hynny i daclo terfysgaeth.
Cyhoeddwyd manylion am farwolaeth y Capten Healey yn fuan wedi ail ymweliad arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, a'r wlad.
Dywedodd mai'r ffordd orau i anrhydeddu aberth y milwyr fyddai sicrhau na fyddai'r "ymgyrch yn ofer" yn Afghanistan.
"Ond mae 'na lawer o waith i'w wneud eto," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2012