Ymchwiliad: 100 o bysgod wedi marw

  • Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio wedi i 100 o bysgod farw mewn pwll yn Nowlais, Merthyr Tudful.

Pysgotwr sylwodd ar y gwyniaid pendew ddydd Sul.

Mae'r asiantaeth wedi cymryd samplau ac arbenigwyr yn ceisio dod o hyd i ffynhonell y llygredd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Mae mwy na chwe math o bysgod yn y Pwll Canol ond dim ond y gwyniaid pendew sy wedi marw.

"Rydyn ni'n dal i ymchwilio."