Oedi i drin cleifion yn uned frys Ysbyty Treforys, Abertawe
- Cyhoeddwyd
![Ysbyty Treforys](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/304/mcs/media/images/60767000/jpg/_60767968_51612316.jpg)
Roedd 'na oedi cyn i'r gwasanaeth ambiwlans drosglwyddo cleifion i'r ysbyty
Mae bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi ymddiheuro i gleifion ar ôl oedi wedi penwythnos estynedig gŵyl y banc.
Roedd yr oedi yn uned frys yr ysbyty.
Bu'n rhaid i ambiwlansys aros cyn trosglwyddo cleifion i'r ysbyty nos Fercher.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi disgrifio nos Fercher fel noson brysur iawn.
"Roedd nifer o gleifion yno ac roedd y staff yn gweithio'n galed i leihau'r amser aros ar gyfer cleifion a'r ambiwlansys," meddai llefarydd.
Dywedodd eu bod yn cyd-weithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans i geisio lleihau'r oedi.
"Daw'r oedi wedi penwythnos estynedig prysur i'r uned frys," ychwanegodd.
"Yn anffodus, roedd hyn yn arwain at oedi cyn trin cleifion."