Marchnad Rhuthun yn symud i'r dre
- Cyhoeddwyd
Mae marchnad a fu ar dir carchar hanesyddol Rhuthun yn symud i leoliad newydd ger prif sgwar y dref.
Lleoliad marchnad cynnyrch ffres Rhuthun oedd y carchar ers ei sefydlu yn 2005.
Bellach mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi sêl bendith i'w symud i faes parcio Stryd y Farchnad ger y sgwâr.
Dywedodd cadeirydd pwyllgor y farchnad, Anna Shipley: "Mae'r carchar yn leoliad hyfryd, ond ddim yn un y byddai pobl yn taro arno ar hap.
"Fe gawsom sawl lleoliad arall ar brawf, ac roedd Sgwâr San Pedr yn ddelfrydol i ni, a'n gobaith oedd symud yno, ond fe fyddai hynny wedi golygu cau ffyrdd, ac ni chawsom ganiatâd."
Swyddog bwyd amaeth asiantaeth Cadwyn Clwyd yw Robert Price, a dywedodd bod y farchnad yn haeddu "lle amlwg" er mwyn arddangos cynnyrch bwyd Dyffryn Clwyd.
Dywedodd: "Gall y math yma o ddigywddiad wythnosol ddod ag ymwelwyr a helpu i adfywio'r dref."
Mae tua 40 o fusnesau a chynhyrchwyr bwyd wedi cytuno i ddod i'r farchnad.
Y mis diwethaf, cafwyd cyfres o ddigwyddiadau yn y dref er mwyn canfod barn trigolion ar sut y dylai'r dref ddatblygu.
Cafodd hynny gefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru a ddisgrifiodd Rhuthun fel "astudiaeth ar ddyfodol trefi marchnad".
Ym mis Mai hefyd, enillodd Rhuthun un o'r prif gategorïau yng ngwobrau Gweithredu dros Drefi Marchnad 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2012
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2012