Pentrefwyr yng Ngwynedd yn cael dychwelyd adre'

  • Cyhoeddwyd
Llun o'r gronfa gan Caroline Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gronfa wedi'i chreu gan ddŵr yn casglu mewn hen chwarel gerllaw (Llun: Caroline Evans)

Mae pentrefwyr yng Ngwynedd, a gafodd eu cynghori i adael eu cartrefi oherwydd perygl llifogydd o argae, wedi cael dychwelyd adre'.

Dywedodd yr heddlu fod twll wedi'i wneud yn yr argae er mwyn rhyddhau rhywfaint o'r dŵr o hen chwarel ym Mhennal, ger Machynlleth, a bod y sefyllfa o dan reolaeth erbyn hyn.

Ddydd Sul roedd yr heddlu'n ceisio symud 600 o bobl o'r pentre' wedi i hollt bychan ymddangos yn wal yr argae, sy'n dal chwe miliwn galwyn o ddŵr.

Yn ôl Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Yn ystod y dydd rydyn ni wedi gallu rhyddhau dŵr o'r gronfa ddwywaith.

"Roedden ni'n cadw golwg ofalus ar lefel yr afon ac roedd popeth i weld o dan reolaeth ar ôl rhyddhau'r dŵr ddwywaith.

"Wedi hynny, cafodd culfor parhaol ei greu yn y gronfa gan gontractwyr a pherchnogion tir, sy'n golygu fod y dŵr yn gallu llifo yn naturiol ac yn rheolaidd.

"Ar sail yr wybodaeth honno ac arolwg gan arbenigwyr gan y safle, roedd modd i ni gynghori trwy Heddlu Gogledd Cymru ei bod hi'n ddiogel i drigolion ddychwelyd i'w cartrefi."

'Difrifol iawn'

Ychwanegodd fod y pwysau ar yr argae yn "aruthrol" ac mai diogelwch y cyhoedd oedd y "prif flaenoriaeth".

"Rydym wedi llwyddo i osgoi sefyllfa ddifrifol iawn," meddai.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cynghori pentrefwyr yn gynharach ddydd Sul i adael Pennal rhag ofn.

Credir fod y twll yn wal yr argae wedi'i achosi gan dirlithriad.

Cafodd rhai trigolion eu cludo i Fachynlleth, dros y ffin ym Mhowys, tra bod eraill wedi mynd i ganolfan hamdden uwchlaw'r pentref neu wedi gwneud eu trefniadau eu hunain.

Wrth i bobl gyrraedd Canolfan Hamdden Machynlleth, dywedodd rheolwr cynorthwyol Canolfan Hamdden Machynlleth, Aled Davies: "Mae pobl mewn hwyliau da. Rydym yn edrych ar eu holau, maent yn cael lluniaeth ac yn gwylio'r teledu."

Roedd gweithwyr cyngor, y bwrdd dŵr lleol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a swyddogion Heddlu'r Gogledd yn gweithio ar y safle'n ceisio cael y sefyllfa dan reolaeth.

Nid cronfa ddŵr artiffisial yw hi, ond cafodd ei chreu gan ddŵr yn casglu o chwarel gyfagos wedi i lechi greu argae naturiol.