Comisiynydd Safonau i adolygu lobiwyr
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Comisiynydd Safonau'r Cynulliad yn adolygu ymdriniaeth ACau gyda lobïwyr gwleidyddol.
Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, sydd wedi gwneud y cais.
Fe ddaw wedi i Lywodraeth San Steffan gychwyn ymgynghoriad a ddylid sefydlu cofrestr statudol o lobïwyr sydd â pherthynas gyda gwleidyddion.
Mae'n dilyn proffwydoliaeth David Cameron yn 2010 mai lobio fyddai'r "sgandal mawr nesa".
Mae disgwyl i Gerard Elias QC gwblhau'r adolygiad erbyn yr hydref.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol