Gyrrwr rali o Gymru wedi marw
- Cyhoeddwyd

Gareth Roberts oedd y cyd-yrrwr yn ras academi Pencampwriaeth Rali'r Byd y llynedd
Mae gyrrwr rali o Gymru wedi marw yn dilyn damwain yn ystod Rali Geir yn Yr Eidal.
Roedd Gareth Roberts, 24 oed o Gaerfyrddin, yn gyd-yrrwr i Craig Breen yn ras y Targa Florio ar ynys Sicily.
Daeth datganiad gan yr IRC - International Rally Challenge - fore Sadwrn sy'n dweud:
"Ar gymal 8 o'r Targa Florio-Rally Internazionale Di Sicilia bu damwain yn ymwneud â char rhif 15, Craig Breen a Gareth Roberts, arweiniodd at atal y cymal er mwyn galluogi timau meddygol i gyrraedd y safle.
"Er gwaetha'u hymdrechion gorau, bu farw Gareth Roberts o'i anafiadau ac mae gweddill y ras wedi'i chanslo fel arwydd o barch.
"Ni chafodd Craig Breen anaf yn y ddamwain ac nid oedd gwylwyr y ras yn rhan o'r digwyddiad.
"Mae'r IRC yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i deulu a chyfeillion Gareth sydd yn ein meddyliau yn y cyfnod trist iawn yma."
Teyrnged

Bu Gareth Roberts (ar y dde) yn gyd-yrrwr i Craig Breen ers 2010
Dywedodd gohebydd ralïo BBC Cymru, Mark James:
"Rwyf wedi cyfweld Gareth sawl gwaith dros y blynyddoedd ac wedi dilyn ei ddatblygiad. Fel nifer o'i flaen fe ddechreuodd rasio yn fforestydd Cymru, a chyn gynted ag y cyfarfu â Craig Breen ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth y ddau 'glicio'.
"Enillodd y ddau ras Academi'r WRC ar y cymal olaf yng Nghymru'r llynedd, ac roedd y ddau ar eu ffordd i'r brig.
"Fe ddechreuon nhw rasio ym Mhencampwriaeth Ralïo'r Byd eleni, ac roedden nhw ond yn cystadlu yn y ras IRC yma er mwyn cael mwy o brofiad.
"Rwyf wedi siarad gyda phobol yn Yr Eidal, ac mae'n ymddangos iddyn nhw daro yn erbyn polyn metel ar wythfed cymal y Targa Florio, ac fe aeth y polyn drwy'r car.
"Yn dilyn nifer o farwolaethau yn y 1980au, mae ralïo wedi cael ei weld fel camp llawer mwy diogel ac mae'r digwyddiad yma yn sioc enfawr.
"Mae'r gymuned ralïo gyfan mewn sioc y bore 'ma, ac rydym i gyd yn teimlo dros deulu a ffrindiau Gareth yn y cyfnod eithriadol o drist yma."