Y Cymry mewn llun eiconig o'r Rhyfel Mawr

Cafodd y llun yma ei dynnu gan Lt John Warwick Brooke ar 1 Awst 1917
- Cyhoeddwyd
Cafodd y llun adnabyddus ei dynnu yn Boezinge ger Cefn Pilckem yn Fflandrys, gan yr Is-gapten John Warwick Brooke yn ystod Brwydr Passchendaele, ar 1 Awst 1917.
Mae'n dangos cludwyr stretsier at eu pengliniau mewn mwd, yn cario milwr wedi ei anafu yn ystod un o frwydrau enwocaf y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ac mae dau ohonyn nhw yn Gymry.
Eisiau 'helpu'r achos'
Mae copi mawr o'r llun eiconig yn rhan o gasgliad arbennig yr Imperial War Museum yn Llundain, ond mae hefyd yn ymddangos ar werslyfrau hanes. A dyna sut y daeth y cyn-athrawes, Kathryn Robyns, ar draws y llun yn Ysgol Bodedern, ac adnabod ei thaid ynddo, sef William Henry Ensor o Falltraeth ar Ynys Môn.
"'Nes i sylweddoli'n syth mai llun o 'nhaid oedd o wrth gwrs," eglurodd ar Radio Cymru yn 2018.
"Roedd adroddiad papur newydd yn dweud mai'r dyn yn y blaen sy'n edrych yn syth at y camera oedd yr unig un i oroesi, ond roeddwn i'n gwybod yn wahanol."
Pan gafodd y llun ei dynnu, roedd William yn 31 oed, ac wedi bod yn y rhyfel ers dros ddwy flynedd, ond nid milwr mohono.
"Roedd o wastad yn d'eud fod o ddim isho mynd i ryfel i ladd, ond y ffordd orau iddo fo helpu'r achos oedd mynd fel cludwr stretsieri.
"Roedd Taid yn arwr i mi am ei fod yn ddyn mor garedig."

Taid Kathryn Robyns, William Henry Ensor, oedd y pedwerydd o'r chwith yn y llun eiconig
Bu farw William yn 83 oed yn 1969. Doedd o erioed wedi siarad lawer am ei brofiadau yn y rhyfel gyda Kathryn, meddai; roedd hi'n siŵr ei fod yn ceisio anghofio'r 'erchyllterau' iddo eu gweld yn rhinwedd ei swydd.
"Doedd o ddim yn siarad llawer am y rhyfel, ond mi ydw i'n ei gofio fo adeg Sul y Cofio... fydda fo isho cwmpeini bryd hynny, ac o'n i'n eistedd hefo fo sawl tro.
"Dwi'n cofio fo'n sôn mai'r peth oedd yn ei daro fo fwyaf oedd colli ffrindiau."
Un enw roedd Kathryn yn cofio'i thaid yn sôn amdano oedd Gruff Penygroes... ac o fewn ychydig o dyddiau, roedd un o wrandawyr Radio Cymru wedi cysylltu i ddweud ei bod hi'n gallu ychwanegu darn coll i'r jig-sô.
'Cyfeillion mynwesol'
Ewythr Eluned Rowlands, Gruffudd John Jones – neu Gruff Penygroes – oedd un o gyfeillion William Ensor ar faes y gad.
"Wedi i mi glywed yr enw Ensor, mi es i chwilio mewn bocs oedd gan fy nhaid, gan mai Gruff oedd ei frawd o," eglurodd Eluned.
"'Nes i 'rioed gyfarfod fy ewythr, ond mae hi'n dda bod fy nhaid wedi cadw'r holl lythyrau yma gan ei frawd hynaf."

Y ddau gyfaill, William Henry Ensor yn eistedd, a Gruff Jones yn sefyll, a'r llythyr gan nain Kathryn i gydymdeimlo â theulu Gruff ar ôl ei farwolaeth
Fel William, doedd Gruff ddim yn awyddus i fynd i'r rhyfel i ladd, ond yn hytrach i helpu'r milwyr oedd yn cael eu hanafu.
"Roedd Gruffudd yn heddychwr ac yn y Royal Army Medical Corp er mwyn osgoi ymladd. Roedd ganddo 'chydig o gefndir meddygol."
Yn anffodus, bu farw Gruff ar 15 Medi 1918 yn ardal y Somme. Ymysg eiddo ei thaid, roedd Eluned wedi dod o hyd i lythyr gan wraig William – nain Kathryn – yn cydymdeimlo â theulu Gruff am eu colled.
Yn y llythyr, dywedodd: "Bu fy mhriod ag yntau yn gyfeillion mynwesol am yn agos i'r pedair blynedd ddiweddaf, ac mae y bwlch sydd wedi ei wneud... yn un amhosibl ei lanw. Pa anhawster bynnag y byddai ef ynddo, byddai Gruff yn ffyddlon yn cynorthwyo."
Ail Gymro'r llun
Ond nid dyna ddiwedd y stori.
Roedd gwrandawraig arall wedi clywed sgwrs Kathryn ar y radio, ac wedi cysylltu i ddweud ei bod hi hefyd yn perthyn i un o'r milwyr yn y llun eiconig.
Yn ôl Norma Winston Jones o Drefach Felindre ger Castellnewydd Emlyn, roedd y llun yn gyfarwydd iddi oherwydd ei fod wedi bod yn nhŷ ei thad-cu erioed, sef Robert Winston.
"Roedd yn aelod o'r Royal Army Medical Corps. Ro'dd llun gyda fe yn y tŷ... y llun sydd yn enwog dros ben. Fe ddywedodd wrtha i ei fod yng nghefn y llun," meddai Norma.
Gan ei fod yn amharod i drafod llawer ar ei gyfnod yn y rhyfel, chafodd Norma erioed wybod pa filwr yn union oedd o yn y llun – "I don't want to talk about it" oedd yr ateb bob tro pan oedd yn ei holi am y cyfnod.
Cafodd Norma wybod gan ei thad fod Robert wedi cael ei anafu gan shrapnel. Ond fe oroesodd y rhyfel gan farw yn 80 oed yn 1973.

Robert Winston ar y chwith, gyda'i wyres, Norma, yn blaen
Cafodd y llun enwog ei dynnu ddiwrnod yn unig ar ôl digwyddiad enwog arall yn ein hanes ni'r Cymry, sef marwolaeth Hedd Wyn, a hynny yn yr un frwydr.
Tybed felly ai'r un cludwyr stretsier yn y llun - gan gynnwys Taid Kathryn a Thad-cu Norma - oedd wedi cario'r milwr a ddaeth yn enw adnabyddus yng Nghymru, am ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ond fyth gael gwybod hynny?
"Mae e wedi hala ias oer drwydda i..." meddai Norma. "Falle bod e wedi cario Hedd Wyn. Pwy sydd i wybod?
"Rwy'n teimlo'n browd iawn ohono fe."
Wedi ei seilio ar erthyglau BBC Cymru Fyw a sgyrsiau ar BBC Radio Cymru o 2018
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2018

- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021
