Y medalau coll sy' wedi dychwelyd at deulu o'r Barri

Delyth Taylor a'i thad-cu, y milwr John Morgan Jones
- Cyhoeddwyd
Ar Sul y Cofio bob blwyddyn mae milwyr a'u teuluoedd yn gwisgo eu medalau gyda balchder – ac eleni doedd neb mwy balch i wisgo medalau ei thad-cu na Delyth Taylor.
Roedd hi'n ddiwrnod arbennig i Delyth o'r Barri gan fod medalau Rhyfel Byd Cyntaf ei thad-cu wedi cael eu dychwelyd i'r teulu ar ôl bod ar goll ers dros 60 o flynyddoedd.
Mae'r stori'n cychwyn yn 1957 pan ddiflannodd y medalau o gartref ei mam-gu a'i thad-cu, John Morgan Jones a Gwendoline Jones, yn y Barri.
Er gwaethaf chwilio a siarad amdanynt yn aml ar hyd y blynyddoedd ddaethon nhw byth i'r golwg. Ac roedd y teulu wedi cymryd fod nhw ar goll am byth – tan eleni.
Mae Delyth, sy' dal i fyw yn y Barri, yn esbonio: "Wnaethon nhw ddiflannu o gartref Mam-gu a Tad-cu – jest diflannu a doedd dim eglurhad o gwbl. Oedd pawb yn edrych amdanyn nhw a phawb yn meddwl am y medalau. Beth sy' wedi digwydd, pwy sy' wedi mynd a nhw?
"Roedd y teulu yn edrych ym mhob man ond yn meddwl, gewn ni byth nhw yn ôl."

Delyth gyda'i mam-gu a'i thad-cu, John Morgan Jones a Gwendoline Jones
Doedd neb wedi clywed gair am y medalau am ddegawdau - nes eleni pan welodd ŵyr Delyth, Owain, neges am y medalau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ac erbyn hyn mae Delyth yn gwybod stori'n llawn.
Meddai: "Ar ôl iddyn nhw ddiflannu aethon nhw fewn i werthiant mwy neu lai yn syth tua 1958. Ac erbyn hyn dwi wedi cyfarfod y dyn brynodd nhw, Thomas Edwards o'r Barri.
"Symudodd y medalau ddim o'r Barri o gwbl.
"Dyma'r dyn 'ma yn grwtyn bach gyda'i arian poced yn mynd i'r sêl, gweld nhw, prynu nhw a'u cadw nhw.
"Mae e'n byw yn y Barri a fuodd y medalau yn ei dŷ ers hynny. Deunaw mis yn ôl dyma fe a'i fab yn cael sgwrs a dweud 'we should return them to the rightful owners'."
Roedd cysylltiad milwrol gan Thomas Edwards gan ei fod wedi bod yn y llynges a'i fab yn y fyddin.
Ar ôl i'w fab gychwyn ymchwilio i'r hanes rhoddodd fanylion y medalau ar y cyfryngau cymdeithasol sef yr enw, JM Jones, a'r rhif milwrol ar y fedal gan obeithio fyddai rhywun yn adnabod y rhif.
Yn anffodus doedd neb wedi gwneud y cysylltiad gyda thad-cu Delyth ac ar ôl cyfnod dyma Thomas Edwards a'i fab yn rhoi'r gorau i'r syniad a chysylltu gyda hanesydd sydd â thudalen Facebook o'r enw Medals going home.
Mae Delyth yn esbonio: "Felly gymerodd yr hanesydd y cyfrifoldeb a 'nath yr hanesydd fynd ar Ancestry.com er mwyn creu coeden deuluol i'n ffeindio ni.
"Y peth cyntaf welodd e oedd adroddiad a manylion angladd fy nhad i o'r Western Mail. Oedd e i gyd yn Gymraeg a doedd yr hanesydd ddim yn deall Cymraeg felly mi wnaeth e gyfieithu'r cyfan.
"Roedd enwau'r teulu i gyd yn y papur felly roedd hwnna yn allweddol iddo fe i fynd â'r peth ymlaen ac i greu'r goeden deuluol."
Doedd gan Delyth ddim syniad fod y gwaith hyn yn digwydd nes i'w hŵyr, Owain, gysylltu gyda hi ar 29 Gorffennaf eleni wedi iddo weld y nodyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn chwilio am deulu John Morgan Jones er mwyn dychwelyd y medalau iddynt.
Meddai Delyth: "Dywedodd Owain mai'r unig beth oedd e eisiau wrthaf i oedd rhif fy nhad-cu yn y fyddin.
"Ac oedd hwnna gyda fi achos pan aeth fy nhad-cu drwy'r ffosydd, roedd e'n ddyn crefyddol ac oedd dau destament yn ei boced e. A 'nath e ysgrifennu ei rif tu fewn i glawr y testament newydd.
"Peth ofnadwy i ddweud yw dwi'n gwybod pam oedd e wedi ysgrifennu y rhif i lawr.
"Ond daeth e adre o'r rhyfel yn ddiogel ac yn saff. Ac mae'r ddau destament gyda fi adref yn y tŷ.
"Y noson yna es i i ôl y testament – agorais i'r llyfr ac oedd y rhifau yr un peth.
"A dywedodd Owain 'mae'r medalau yn y Barri'. Oedd hwnna'n fwy o sioc i fi."

Testament newydd John Morgan Jones gyda'i rif milwrol. Ymunodd gyda'r fyddin yn 21 oed
Wythnos yn ddiweddarach a bron i 70 mlynedd wedi iddynt ddiflannu dyma Owain yn dychwelyd y medalau at Delyth i'w cadw.
Meddai Delyth: "Edrychais i arnyn nhw a meddwl, o'n i mor ifanc pan ddiflannon nhw ond oedd rhyw gof gyda fi bod nhw mewn lle go amlwg yn y tŷ gyda Mam-gu a Tad-cu.
"Dyna'r stori ond nid dyna ddiwedd y stori."
Ers hynny mae Delyth wedi cyfarfod Thomas Edwards a'i deulu.
Meddai: "Ei eiriau e oedd 'I never thought it would get to this'.
"Wisgais i nhw i'r capel ar Sul y Cofio eleni.
"Dwi wedi cadw gymaint o bethau yn perthyn i Dad-cu. A fuodd e farw pan o'n i'n 18.
"Mae'n golygu popeth. Dwi wedi bod yn meddwl amdanyn nhw gymaint yn enwedig yn ystod penwythnosau fel Sul y Cofio.
"Eleni ni wedi cael diwrnod VE a VJ a ti'n gweld pobl yn gwisgo medalau. Dwi yn teimlo nawr bod fi'n gallu ymuno â nhw a gwisgo nhw.
"Wisgais i nhw ar fy siaced ar Sul y Cofio. Oedd e'n brofiad gwych ac emosiynol ond o'n i mor browd. O'n i'n agos iawn i fy nhad-cu. Oedd e'n ddyn hyfryd."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd13 Mai

- Cyhoeddwyd9 awr yn ôl
