Tenor yn ennill gwobr newydd yn enw Syr Bryn Terfel

David Karapetian a Syr Bryn TerfelFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

David Karapetian yn dathlu ennill y gystadleuaeth newydd gyda Syr Bryn Terfel

  • Cyhoeddwyd

Mae tenor wedi ennill y gystadleuaeth newydd, Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel, ddydd Mercher.

Bydd David Karapetian yn derbyn gwobr o £15,000 ac roedd yn rhaid i'r cantorion ganu tair cân, gan gynnwys un yn eu hiaith eu hunain ac un gân yn Gymraeg.

Mae Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel, sy'n cael ei chynnig bob dwy flynedd o fis yma ymlaen, yn rhan o bartneriaeth rhwng y canwr byd-enwog a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Dywedodd David Karapetian ei fod yn "hynod ddiolchgar am y cyfle i rannu fy angerdd dros ganu. Roedd gweithio gyda Syr Bryn yn gwireddu breuddwyd i mi".

Daeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel i ben yn yr haf, wedi 20 mlynedd.

'Hynod arbennig'

Cafodd preswyliad tri diwrnod ei gynnal yn y coleg cyn y gystadleuaeth derfynol, oedd yn cynnwys dosbarthiadau meistr, mentora arbenigol, a hyfforddiant iaith.

Roedd David Karapetian yn cynrychioli'r Royal Academy of Music, a dewisodd ganu'r gân Armenaidd, Կռունկ, [Y Crëyr], gan Komitas.

Ychwanegodd David fod canu yn ei iaith ei hun yn rhywbeth "hynod arbennig".

"Mae cân Armenaidd yn rhan o fy niwylliant nas clywir yn aml yn y byd perfformio ehangach, felly roedd cael y cyfle i'w rhannu gyda chynulleidfaoedd newydd yn rhywbeth arwyddocaol iawn."

Roedd un cystadleuydd o Gymru yn rhan o'r gystadleuaeth eleni, sef Charlotte Crane o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig