Reform UK: 'Angen adolygu'r berthynas rhwng BBC Cymru a Phlaid Cymru'

- Cyhoeddwyd
Mae Reform UK wedi galw am adolygiad o berthynas BBC Cymru â Phlaid Cymru.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C dywedodd Cai Parry-Jones o blaid Reform UK: "Dan ni'n gwybod bod Rhun ap Iorwerth wedi bod yn chief political correspondent i BBC Wales am bump blwyddyn.
"Mae Aled ap Dafydd - rhywun sydd wedi bod yn uchel iawn yn BBC Cymru a S4C efo Newyddion yn Director of Political Strategy i Plaid Cymru.
"Dwi ddim yn dweud bod hyn yn profi rhagfarn sefydliadol yn y BBC i Plaid Cymru ac yn erbyn pleidiau fel Reform - ond mae'n rhaid i ni gael adolygiad i fewn i hyn."
Yn dilyn ymddiswyddiadau y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Tim Davie, a'r Pennaeth Newyddion, Deborah Turness nos Sul fe wnaeth arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, roi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd, yn ei ôl ef, yn enghraifft o ogwydd honedig y gorfforaeth.

Mae Nigel Farage wedi beirniadu'r BBC a phenodiad cyfarwyddwr BBC Cymru sydd bellach yn gyfarwyddwr dro ar y cenhedloedd, Rhuanedd Richards
Yn y fideo dywedodd Mr Farage bod y ffaith fod Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cenhedloedd dros dro y BBC yn arfer bod yn Brif Weithredwr Plaid Cymru ac wedi gweithio i'r llywodraeth yn dystiolaeth, yn ei farn ef, o duedd adain chwith y BBC.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae Rhuanedd Richards wedi gweithio i'r BBC ers 2018 ac yn Gyfarwyddwr BBC Cymru ers 2021. Mae hi'n gyfarwyddwr dros dro ar y cenhedloedd ar hyn o bryd.
"Nid yw Rhuanedd wedi celu ei chefndir proffesiynol ac mae hi'n gwbl ymroddedig i gynnal safonau didueddrwydd y BBC."
Doedd Rhuanedd Richards, aelod bwrdd y BBC dros Gymru Michael Plaut na chyfarwyddwr y BBC yng Nghymru, Garmon Rhys, ddim ar gael i siarad am bryderon Reform UK nag am effaith bosib sefyllfa'r bresennol y BBC ar ddarlledu Cymraeg a Chymreig.
Doedd Plaid Cymru ddim am ymateb i sylwadau Reform UK.

Mae angen edrych eto ar lywodraethiant y BBC yn ganolog, medd Karl Davies
Yn ôl Karl Davies, un sydd a phrofiad o weithio mewn rôl flaenllaw yn BBC Cymru ac sydd hefyd yn gyn-Brif Weithredwr Plaid Cymru, mae angen edrych eto ar lywodraethiant y BBC yn ganolog.
"Rhwng 2007 a 2017 roedd gynnon ni Ymddiriedolaeth y BBC oedd yn gweithredu yn gwbl agored a chwbl dryloyw - o'n i'n rhan o'r broses honno," meddai.
"Fe wnaeth y llywodraeth. am ryw reswm, nôl yn 2016 benderfynu wneud i ffwrdd efo hynny a 'dan ni nôl rwan i'r hen drefn lle mae cyfeillion i wleidyddion sy'n cael lle wrth y bwrdd llywodraethol - a nid dyna'r ffordd o redeg gwasanaeth darlledu cyhoeddus."
Doedd y BBC ddim am ymateb i'r sylwadau ac mae cais wedi cael ei wneud i Lywodraeth y DU am sylw.
Cyn-gadeirydd S4C: 'Dyfodol darlledu cyhoeddus mewn perygl'
- Cyhoeddwyd3 awr yn ôl
'Mae gan Gymru le i ddiolch i Tim Davie,' medd cyn-gadeirydd bwrdd BBC
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Yng Nghorwen barn gymysg oedd yna am werth newyddiaduraeth y gorfforaeth a gwerth am arian ffi'r drwydded.
"Dwi'n trysto newyddiaduraeth y BBC ond ddim yn hapus be 'dan ni'n talu," oedd un sylw.
Dywedodd un arall nad oedd hi'n ymddiried yn newyddiaduraeth y BBC ac nad oedd hi am dalu am y drwydded.
Bydd sylwadau felly yn poeni penaethiaid y BBC.
Ymhen dwy flynedd bydd penderfyniad terfynol ar ariannu'r gorfforaeth at y dyfodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.