Disgwyl i Wylfa fod yn safle ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd

Daeth y gwaith o gynhyrchu ynni i ben yn Wylfa nôl yn 2015
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Wylfa ar Ynys Môn gael ei enwi yn safle ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd, gyda chadarnhad swyddogol i ddod ddydd Iau.
Mae BBC Cymru yn deall y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi eu sêl bendith i adweithydd modiwlar bach ar y safle.
Mae gweinidogion wedi bod yn ystyried a ddylid dewis Ynys Môn neu Oldbury yn Sir Gaerloyw ar ôl dod i gytundeb gwerth £2.5bn gyda Rolls Royce i'w hadeiladu yn gynharach eleni.
Y gobaith yw y bydd yr orsaf yn darparu hyd at 900 o swyddi llawn amser, a miloedd yn ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.
'Oes aur niwclear'
Dyw hi ddim yn glir faint o adweithyddion fydd yn cael eu hadeiladu, ond mae yna le ar y safle ar gyfer mwy nag un.
Mae adran ynni, diogelwch a sero net y DU wedi derbyn cais am sylw.
Mae'r adran yn flaenorol wedi addo "oes aur niwclear" a allai "warchod cyllid teuluoedd, hybu diogelwch a chreu miloedd o swyddi".
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fyddan nhw'n gwneud sylw ond maen nhw wedi dweud yn y gorffennol bod "ynni niwclear yn rhan o'n cynllun i symud i ffwrdd o danwydd ffosil, gan ddefnyddio adweithyddion modiwlar mawr a bach".
"Mae Wylfa mewn sefyllfa arbennig o dda i ddenu buddsoddiad mewn gorsafoedd niwclear newydd oherwydd ei gwaddol niwclear a'i gweithlu lleol medrus iawn.
"Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod potensial Cymru yn y sector hwn yn cael ei wireddu'n llawn."
Mae adweithyddion modiwlar bach yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri cyn cael eu gosod ar y safle ac maen nhw'n gallu cynhyrchu digon o ynni i bweru tua miliwn o gartrefi.

Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o £2.5bn mewn adweithyddion niwclear bach mewn partneriaeth gyda Rolls Royce.
Yn 2024 fe ddywedodd llywodraeth Geidwadol Rishi Sunak mai safle Wylfa oedd y dewis cyntaf a gorau fel lleoliad i godi adweithydd niwclear mawr, ar ôl prynu'r safle gan y datblygwyr blaenorol.
Fe gyhoeddodd Llafur adolygiad o gynlluniau niwclear y DU o fewn wythnosau i ennill yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn, ond yna ym mis Mehefin 2025 fe gyhoeddodd fuddsoddiad o £14.2bn mewn gorsaf newydd fawr yn Sizewell yn Suffolk.
Mae Wylfa hefyd wedi bod yn y ras am adweithyddion llai, sy'n rhatach ac sydd â'r potensial i fod yn weithredol yn llawer cyflymach.
Fe gafodd ynni niwclear ei gynhyrchu am y tro diwethaf ar safle Wylfa yn 2015.
Cafodd cynlluniau blaenorol gwerth £20bn ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd eu gollwng yn swyddogol yn 2021 ar ôl i ddatblygwyr fethu â chyrraedd cytundeb ariannol gyda Llywodraeth y DU.
Wylfa: Egluro hanes hir a heriol ynni niwclear ym Môn
- Cyhoeddwyd22 Mai 2024
Penderfyniad ar adweithyddion niwclear Cymru 'erbyn diwedd yr haf'
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Mae ynni niwclear yn bwnc dadleuol, ac yn y gorffennol mae mudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa-B) wedi dweud na ddylai cynhyrchu niwclear newydd fod yn opsiwn.
"'Da ni ar Ynys Ynni ac mae 'na ddigon o ynni naturiol allai gael ei greu," meddai Robat Idris o'r mudiad yn ddiweddar.
"Mae digon o ffyrdd o ynysu tai fel nad ydy nhw'n gollwng gwres."
Ymatebion y gwrthbleidiau
Wrth ymateb, dywedodd Plaid Cymru eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud ei fod yn "gyfle gwirioneddol i gyflawni prosiect trawsnewidiol sy'n cryfhau diogelwch ynni ac yn fuddiol i gymunedau lleol, gan barchu amgylchedd, diwylliant a'r iaith Gymraeg yr Ynys yn llawn".
Ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod hwythau'n croesawu'r cyhoeddiad a'i fod yn "gam enfawr ymlaen i ynni niwclear ar Ynys Môn".
Dywed llefarydd ar ran Reform UK bod y cyhoeddiad yn un "hir ddisgwyliedig, ac os byddai'r ewyllys gwleidyddol wedi bod yna, y byddem eisoes wedi bod ar ein ffordd i gynhyrchu pŵer niwclear o Wylfa."
'Ynni niwclear yn dychwelyd i'r ynys'
Mae gwleidyddion wedi bod yn trafod dyfodol Wylfa fel safle niwclear ers blynyddoedd, ond hyd yn hyn dyw'r addewidion heb arwain at ddatblygiadau cadarn.
Dan bwysau gwleidyddol mi fydd y ddwy lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a San Steffan yn gobeithio yn ddirfawr mai dyma'r cyhoeddiad fydd yn golygu bod ynni niwclear yn dychwelyd i'r ynys.
Ar ôl colli isetholiad Caerffili, a gydag etholiad ymhen chwe mis, mi fydd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn sicr o ddatgan bod y cyhoeddiad yma fel arwydd o'r hyn y gall y ddwy lywodraeth ei gyflawni dros Gymru.
Bydd rhai yn siomedig na fydd yna atomfa fawr ar yr ynys, eraill yn ei gwrthwynebu yn llwyr, ond i lawer ar yr ynys mi fydd y swyddi ddaw a gydag unrhyw atomfa yn rhywbeth i'w groesawu.