Beirniadu gwaharddiad ar bobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae gwaharddiad ar bobl ifanc yn ymgynnull yng nghanol dinas Bangor wedi cael ei feirniadu gan Gomisiynydd Plant Cymru ac ymgyrchwyr hawliau sifil.
Daw'r gwaharddiad ym Mangor i rym ddydd Llun, ac fe allai effeithio ar unrhyw un o dan 16 oed sydd ddim yng nghwmni oedolyn ar ôl 9:00pm.
Mae'r grŵp hawliau sifil Big Brother Watch wedi disgrifio'r gwaharddiad fel gwallgofrwydd gan ddweud ei fod yn debycach i Ogledd Korea na Gogledd Cymru.
Ond mae Heddlu Gogledd Cymru yn mynnu na fydd y gwaharddiad yn ymwneud â phob person ifanc, dim ond y rhai sy'n creu trafferth.
Chwe mis
Mae'r gorchymyn gwasgaru, dolen allanol yn dweud: "Os ydych o dan 16 oed nid oes hawl gennych fod yma rhwng 9:00pm a 6:00am oni bai eich bod yng nghwmni oedolyn neu berson cyfrifol dros 18 oed.
"Fe allech gael eich symud i'ch cartref neu leoliad mwy diogel os yn fwy priodol."
Bydd y gwaharddiad mewn grym am chwe mis mewn ymgais i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol fel grwpiau'n ymgynnull i yfed alcohol neu aelodau o'r cyhoedd yn cael "eu bygwth, eu haflonyddu neu eu poeni."
Bydd gan blismyn yr hawl i orchymyn grwpiau o ddau neu fwy o bobl i wasgaru.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, bod y gorchymyn yn "condemnio pawb o dan 16 oed, yn eu hynysu o'u cymunedau, yn eu troi yn erbyn yr heddlu ac yn ymledu'r camsyniad fod pob person ifanc yn creu trafferth".
"Mae gan yr heddlu eisoes y pwerau i weithredu yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol am ymddygiad troseddol mewn man cyhoeddus," ychwanegodd.
'Gwallgofrwydd'
Dywedodd Nick Pickles, cyfarwyddwr grŵp hawliau sifil Big Brother Watch, bod y syniad y gallai rhywun gael dirwy neu garchar am gerdded drwy'r dre "yn syml am eich bod yn bymtheg oed a heb riant yn wallgofrwydd pur."
"Dyma'r math o ddeddf lem y byddai rhywun yn disgwyl ei weld yng Ngogledd Korea nid Gogledd Cymru."
Dyma'r tro cyntaf i orchymyn gwasgaru gael ei ddefnyddio ym Mangor, ac mae'r Arolygydd Simon Barrasford o Heddlu'r Gogledd yn mynnu ei fod yn arf effeithiol yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gallai peidio cydymffurfio â'r gorchymyn arwain at hyd at dri mis o garchar neu ddirwy o hyd at £2,500.
Dywed yr heddlu nad yw'n golygu y byddai bob person o dan 16 oed yn cael eu symud o'r ardal, ond bod ganddynt y grym i wneud hynny os oedd angen.
"Mae llawer o bobl yn gweithio'n galed i wella ac adfywio canol dinas Bangor, ac am fwynhau eu bywyd pob dydd heb gael eu bygwth neu eu poeni a does gen i ddim amheuaeth y bydd gorchymyn gwasgaru yn gymorth," meddai'r Arolygydd Barrasford.
"Mae yfed yn gyhoeddus yn cael effaith ddrwg ar ganfyddiad ymwelwyr ond hefyd ar safon bywyd trigolion.
"Wrth weithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, rwy'n hyderus y gallwn gael effaith bositif ar yr ardal."
Catherine Roberts yw prif swyddog diogelwch cymunedol Cyngor Gwynedd, a dywedodd nad oedd y gorchymyn ar ei ben ei hun yn ateb, a bod angen llawer o waith i'w wneud yn effeithiol.
"Rydym yn ffodus o gael perthynas weithredol dda gyda'n cydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru ar faterion fel hyn," meddai.
"Mae cefnogaeth y gymuned yn hanfodol fel y gallwn barhau gydag unrhyw welliannau yn y tymor hir."