Noson gyntaf gwaharddiad 'yn dawel' ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Roedd noson gyntaf gwaharddiad ar bobl ifanc i ymgynnull yng nghanol dinas Bangor wedi mynd yn ddidrafferth, yn ôl yr heddlu.
Daeth y gwaharddiad i rym ddydd Llun er mwyn ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'n effeithio ar unrhyw un o dan 16 oed sydd ddim yng nghwmni oedolyn yng nghanol y ddinas ar ôl 9pm.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod "pocedi" o bobl ifanc yn y ddinas a'u bod wedi cael aros yno am nad oedd 'na gwynion.
Mae un mudiad rhyddid, Big Brother Watch, wedi beirniadu'r gorchymyn gan ddweud bod yr ardal "yn debycach i Ogledd Korea yn hytrach na gogledd Cymru".
Dywedodd yr heddlu nad oedd 'na waharddiad llwyr ond bod gan yr heddlu bwerau i symud pobl ifanc sy'n achosi trafferthion.
"Roedd yr ymddygiad ar y stryd gan y bobl ifanc nos Lun yn golygu nad oedd rhaid i'r heddlu ymyrryd ac felly roedden nhw yn cael aros yn yr ardal," meddai'r Sarjant Iwan Owen.
"Doedd 'na ddim cwynion gan y cyhoedd am ymddygiad y bobl ifanc."
Trafod
Mae Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, wedi dweud bod y gorchymyn yn "condemnio pawb o dan 16 oed, yn eu hynysu o'u cymunedau, yn eu troi yn erbyn yr heddlu ac yn ymledu'r camsyniad fod pob person ifanc yn creu trafferth".
Cymysglyd hefyd oedd y farn ymhlith trigolion Bangor.
Mae rhai yn dweud bod angen adnoddau ar y bobl ifanc yn hytrach na chaniatáu iddyn nhw ymgasglu ar strydoedd.
"Pam na allwn ni eistedd i lawr a gofyn i'r plant yma be maen nhw eisiau?" holodd Victoria O'Reilly o Grŵp Cymuned Trigolion Bangor.
"Holi iddyn nhw be oedd ac ydi'r problemau a be maen nhw am ei weld yn digwydd."
Nid dyma'r lle cyntaf i orchymyn o'r fath gael ei gyflwyno ond mae'n effeithio ar ran eang o ddinas Bangor.
Mae methu cydymffurfio yn gallu arwain at garchar am dri mis a neu ddirwy o hyd at £2,500.
Fe fydd y gorchymyn yn bodoli am chwe mis cyn y bydd yn cael ei adolygu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2012