Cynlluniau 'heriol' ar gyfer cartef newydd i fad achub

  • Cyhoeddwyd
Argraff pensaer o Bier newyd Y MwmbwlsFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Mae gorsaf bad achub wedi bod yn Y Mwmbwls er 1863

Mae gwaith 'uchelgeisiol a heriol' i godi cartref newydd i fad achub y Mwmbwls yn dechrau ddydd Llun ar gost o £9.5m.

Bydd yr adeilad newydd yn rhan allweddol o adferiad y pier 113 oed.

Dywed yr RNLI y bydd yr holl ddeunyddiau adeiladu yn cyrraedd y safle o'r môr.

Bydd yr adeilad newydd newydd yn cael ei godi ar y pier, sy'n adeilad rhestredig.

Disgwylir i'r gwaith gymryd 18 mis i'w gwblhau.

Mae 'na gynigion i greu atyniad i ymwelwyr fel rhan o'r cynllun i adfer y pier.

'Heriau technegol sylweddol'

Bwriad arall y cynllun, sydd werth £39m yn ei gyfanrwydd, yw creu gwesty, fflatiau a siopau o dan y pier ac ar bentir Y Mwmbwls.

Dywedodd Howard Richings, pennaeth rheoli ystadau'r RNLI:

"Mae gorsaf bad achub y Mwmbwls yn adeilad eiconig, ac yn debyg i orsafoedd Tamar gafodd eu cwblhau yn ystod y blynyddoedd diweddar.

"Mae natur eiddil y pier yn golygu bydd yn rhaid i gwch gludo'r defnyddiau adeiladu yno.

"Her arall sy'n unigryw o ran y cynllun hwn yw'r amrediad llanw - sydd yn un o'r mwyaf yn y byd - fydd yn cael effaith ar adeiladu'r llithrfa'n sylweddol."

Mae rhai pobl leol yn gwrthwynebu'r cynllun i adeiladu'r atyniad ymwelwyr.

Mae gorsaf bad achub wedi bod yn Y Mwmbwls ers 1863.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol