Cwpan Rygbi'r Byd y Merched... Beth aeth o'i le?

Ffiji'n dathlu cais yn y fuddugoliaeth yn erbyn Cymru ar 6 Medi
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n ymgyrch siomedig i dîm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd y merched eleni, gan golli pob gêm a gorffen ar waelod ei grŵp.
Beth aeth o'i le? A sut mae datrys y problemau? Gareth Rhys Owen sy'n asesu'r perfformiadau a'r ffordd i newid pethau.
Yn eistedd yn fy sedd sylwebu yng Nghaerwysg brynhawn Sadwrn, cefais fy atgoffa o un o hoff ddywediadau cyn-reolwr Cymru, John Toshack: "Yr unig beth sy'n fy synnu yw bod unrhyw un wedi ei synnu."
Wrth i'r chwiban olaf chwythu roedd yna demtasiwn i awgrymu bod gweld Cymru yn colli i Fiji yng Nghwpan y Byd yn dipyn o sioc, ond mewn gwirionedd roedd nifer ohonom ni wedi darogan y canlyniad cyn i'r gêm ddechrau.
Doedd colli i Ganada a'r Alban ddim yn destun embaras, yn wir mae Canada ymhlith un o dimau gorau'r byd, er diffyg cyllid a chefnogaeth, a'r Alban oedd y ffefrynnau i ennill y gêm rhwng y ddau dîm. Ond roedd arddull y ddwy golled yn destun pryder ac yn arwyddocaol o ffaeleddau'r gêm yma yng Nghymru.

Collodd Cymru 38-8 yn erbyn Yr Alban yn yr ail gêm yn y grŵp
Mae Cymru'n bedwerydd yn y byd o safbwynt buddsoddiad i'r tîm rhyngwladol gyda deugain o chwaraewyr proffesiynol a chyfleusterau o'r safon uchaf. Ond mewn gwirionedd prin iawn yw'r gwreiddiau a'r sylfaen o dan yr haenen uchaf un.
Y broblem amlycaf yn y byr-dymor yw'r diffyg amser y mae'r chwaraewyr presennol yn eu chwarae o wythnos i wythnos. Er bod mwyafrif o'r garfan yn chwarae yng nghynghrair Lloegr, prin sy'n sicr o'u lle yn y timau cyntaf. Ac o'r rheiny sydd yn chwarae'n gyson mae'n deg dweud nad oes gofyn arnyn nhw i fod yn arweinwyr.
Mae hyn yn ffaith sy'n cael ei ategu'n gyson gan yr hyfforddwr, Sean Lynn. Sut felly mae datrys problem o'r fath? Awgrym Lynn yw i wella'r berthynas rhyngddo ef a'r timau yn Lloegr.

Roedd Sean Lynn yn reolwr ar Goleg Hartpury ac yna Gloucester–Hartpury, cyn cael y swydd gyda Chymru ym mis Ionawr eleni
Ond mae'n siŵr bydde Lynn, fel cyn hyfforddwr Caerloyw, yn cydnabod taw nid elusen yw'r timau yn Lloegr, ac mai eu blaenoriaeth nhw yw dewis y timau cryfaf, nid cryfhau tîm Cymru.
Wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru'r bwriad i greu dau dîm newydd sbon ar gyfer y menywod fel rhan o'u cynlluniau chwyldroadol i drawsnewid rygbi proffesiynol yng Nghymru. Mae hyn ar bapur yn newyddion calonogol i'r gêm, er mai'r cwestiwn amlycaf i ofyn byddai ym mhle bydde nhw'n chwarae?
Mae Gwalia a Brython eisoes yn chwarae yn y Cynghrair Celtaidd, cystadleuaeth sydd wedi rhoi cyfle i'r chwaraewyr ifanc ond sy'n israddol na uwchgynghrair Lloegr. Yr ateb delfrydol, mae'n siŵr, fyddai i geisio cael lle i'r timau newydd dros Glawdd Offa. Ond i ail adrodd y pwynt - mae'r cyfan yn ddibynnol ar ewyllys da'r Saeson.

Jasmine Joyce-Butchers, un o sêr tîm Cymru dros y blynyddoedd diweddar
Mae yna ddadl lawer mwy sylfaenol i esbonio methiant diweddar y tîm, a hynny yw safon y chwaraewyr.
Dwy flynedd yn ôl roedd Cymru'n gorffen yn drydydd yn y Chwe Gwlad, ond roedd y llwyddiant 'ma'n ddibynnol ar flaenwyr a darnau gosod. Ychydig iawn a greodd Cymru y tu hwnt i'r cynllun ceidwadol yma. Prin oedd y doniau a'r sgiliau. Prin hefyd oedd unrhyw arwydd o Plan B.
Ar adegau yn ystod Cwpan y Byd roedd y darnau gosod yn wendid difrifol a doedd dim arwydd bod Cymru'n gallu chwarae arddull ymosodol, ffwrdd â hi. O edrych ar rinweddau corfforol chwaraewr Cymru o gymharu â Chanada, mae'n amlwg nad oes gennym ni'r maint a'r cyflwr corfforol i sathru dros ein gwrthwynebwyr.
Mae angen gwneud penderfyniadau; am y strwythur, yr arddull, y dyfodol. Mae angen hunaniaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl