Ynys Enlli: Dyddiadur diwedd yr haf

Aron a Lois, wardeiniaid tymhorol Ynys Enlli
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwedd tymor prysur arall o ymwelwyr i Ynys Enlli, Cymru Fyw sydd wedi gofyn i'r warden tymhorol, Lois Roberts, adlewyrchu ar fywyd ar yr ynys dros dymor yr haf.

Ynys Enlli o'r môr
O astudio dolffiniaid Risso i groesawu artistiaid
Mae pob tymor yn dod â rhywbeth gwahanol i Enlli, llynedd gathon ni law, ac eleni gwelwn yr ynys o dan haul trofannol gyda thôn wres ar ôl tôn wres.
Wrth gwrs mae'r ddau eithaf yn dod gyda'i heriau, ac mae'n swydd i fel warden llety yn newid o ddydd i ddydd. Dwi wedi bod yn byw a gweithio ar Ynys Enlli am ddau dymor erbyn hyn gyda fy mhartner Aron.
Dros y misoedd diwethaf, mae Enlli wedi bod yn brysur gydag amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau gwahanol.
Mae Phoebe Moss wedi bod yn parhau gyda'i hymchwil ar y dolffiniaid Risso, tra bod rhaglen Artistiaid Preswyl wedi denu 12 artist i rannu eu creadigrwydd gyda'r ynys.
Ar yr un pryd roedd gwaith adeiladu arbennig yn cael ei wneud i ail doi Tŷ Nesa a Thŷ Bach. Ac wrth gwrs, croesawu gwesteion a gwirfoddolwyr o ledled y byd, pob un yn dod yn rhan o gymuned fywiog Enlli.

Phoebe wrthi yn tirfesur ger arfordir gorllewin yr Ynys
Mae prosiect Phoebe Moss yn edrych ar wella gwybodaeth am famaliaid morol o gwmpas Ynys Enlli a Phen Llŷn.
Gyda thechnoleg drôn, mae Phoebe wedi bod yn astudio'r dolffiniaid Risso sydd yn cyfrannu at ddata gwerthfawr sydd yn ein dysgu ni am eu cylch bywyd.
Mae'r prosiect hefyd yn ceisio cysylltu cymunedau lleol ac ymwelwyr Enlli, wrth godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ecolegol yr ardal.
Llo cyntaf mis Awst
Roedd cyffro ar yr ynys pan gafodd y llo cyntaf ei eni ym mis Awst, bron bedwar mis i'r diwrnod ar ôl i 24 buwch groesi'r swnt.
Mae'r gwartheg yn chwarae rôl bwysig o fewn system ffarmio'r ynys wrth bori caeau gweundir a gwlypdiroedd.
Maent hefyd yn ychwanegu at fioamrywiaeth yr ynys. Er enghraifft, mae rhywogaethau arbenigol o chwilod yn byw yn y tail a gynhyrchir gan y gwartheg sydd yn ffynhonnell bwyd i'r Fran Goesgoch ifanc.
Mae hyn yn hollbwysig er mwyn iddynt adeiladu nerth ar gyfer eu taith hir i'r tir mawr dros y gaeaf.

Tri llo bach yng nghae Bryn Sionyn yng ngorllwein yr ynys
Mae'r môr sydd yn amgylchynu Enlli'n llawn bywyd morol amrywiol.
Bydd yr haf yn gweld y pysgotwyr Ernest Evans a Gareth Roberts yn mynd allan bron bob dydd i ddal cimychiaid a'u gwerthu ar y tir mawr, tra bod rhai yn aros ar Enlli i'w gwerthu yn y caffi.
Yn ôl Ernest a Gareth, mae'r tywydd llonydd eleni wedi gwneud y tymor cimycha yn un heriol gan fod y dyfroedd llonydd yn lleihau gweithgarwch y cimychiaid.
Mae tywydd gwyntog yn eu hannog i symud o gwmpas sydd yn ei wneud yn haws i'w dal.

Y ddau gwch ar y lan a diwedd y tymor cimycha yn agosáu
Diolch i gefnogaeth yr Ashley Family Foundation, mae wedi bod yn wych medru croesawu amrywiaeth o artistiaid i'r ynys dros yr haf.
O gerddoriaeth, i weithdai paentio, o ysgrifennu creadigol i fyfyrio enwau'r caeau, mae pob artist wedi cynnal gweithdai difyr ac ma pawb yn edrych ymlaen i weld sut bydd eu gwaith yn datblygu.
Gallwch weld arddangosfa o waith artistiaid y prosiect llynedd yn cael ei arddangos yn amgueddfa ac oriel Storiel, Bangor tan 19 Medi.
Dilynwch @celfenlli ar Instagram i weld yr artistiaid ag i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd celfyddydol a chreadigol ar Ynys Enlli.

Enlli a Lleucu, deuawd ffliwt Dwy
Os ydych wedi ymweld ag Enlli dros yr haf, byddech wedi sylwi ar yr sgaffold o gwmpas Tŷ Nesaf a Thŷ Bach.
Mae yna gynlluniau cyffrous ar y gweill i atgyweirio ac adnewyddu Tŷ Nesaf yn bunkhouse, fydd yn ehangu cyfleoedd i bobl aros ar Enlli ac mi fydd yn ehangu ein gallu i groesawu grwpiau o wirfoddolwyr yn y dyfodol.

Yr adeiladwyr yn brysur ar waith
Garddio a gwneud seidr
Un peth personol dwi'n falch ohono yw bod fy sgiliau garddio yn gwella o dymor i dymor.
Mae tyfu bwyd yn elfen fawr o fyw ar Enlli gan nad yw cyflenwadau yn hawdd i gael bob tro.
Felly mae'n bwysig gallu cynhyrchu bwyd ein hunain i sicrhau llysiau ffres drwy gydol y tymor.
Mae tyfu llysieuyn o hadyn yn dy roi mewn i rhythm gyda'r tymhorau; egino yn y polytunnel yn y gwanwyn, trawsblannu tu allan yn yr haf, a bwyta a storio yn yr Hydref.
Mae'r teimlad o fwyta llond plât o'n llysiau'n hollol ffantastig, yn enwedig pan mae Aron yn llwyddo i ddal cimwch yn ei gawell!
Yr her eleni oedd dyfrio'r planhigion, gyda'r tywydd mor sych roedd y pridd yn sychu mewn dim.

Gardd Beudy Plas
Mae ein gwaith ni fel wardeiniaid yn newid o wythnos i wythnos. O lanhau a pharatoi tai ar gyfer gwesteion, o docio coed a llwyni'r gerddi, i lot o dorri a chlirio gwair.
Bob wythnos bydd gwirfoddolwyr newydd yn ymuno efo ni, ac mae o hyd yn fy synnu beth gall tîm mawr ei gyflawni mewn diwrnod.
Eleni rydym wedi bod yn wrthi yn torri eithin ar y mynydd, cynnal y berllan, a gwneud gwaith adfer yn y cafn.

Aron a Lois gyda'r gwirfoddolwyr Toby a Cecily, yn clirio llwybrau'r mynydd
Roedd yn brofiad arbennig cael dysgu sut i wneud seidr gyda Sam Robinson o Seidr Tydecho.
Yn gyntaf, fe gasglom afalau o erddi'r ynys, ac yna eu golchi a'u rhoi trwy beiriant malu.
Yna, bydd y stwnsh yn cael ei wasgu gyda llaw trwy'r press, a'r sudd yn cael ei bwmpio i mewn i gynwysyddion mawr er mwyn eplesu am chwe mis.
Cafodd berllan yr ynys ei phlannu bum mlynedd yn ôl a rydym yn obeithiol y bydd digon o afalau yn y dyfodol i ddechrau cynhyrchu sudd a seidr Ynys Enlli.

Hel afalau o goeden Llofft Carreg
Noddfa Awyr Dywyll
Mae byw ar Enlli'n fraint gan ein bod yn gallu profi yr awyr dywyll bob nos.
Gyda'r llygredd golau agosaf yn dod o Ddulyn, mae'n bosib gweld y sêr ar ei orau gyda noson glir.
Cafodd Ynys Enlli ei ardystio'n Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2023, gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.
Enlli yw'r safle cyntaf yn Ewrop i dderbyn y statws yma. Mae cadw'r nos yn dywyll yn bwysig ar gyfer bywyd gwyllt yr ynys, ac mae'r statws yma'n caniatáu i 30,000 o Ddrycin Manaw i fridio yma'n ddiogel.

Dyma lun o'r awyr dywyll gan gynnwys seren wib
Mae gwneud changeovers bob dydd Sadwrn trwy'r tymor yn rhan fawr o fy swydd fel warden llety.
Hefo help gwirfoddolwyr, byddwn yn mynd o gwmpas bob tŷ ac yn eu paratoi ar gyfer y gwesteion nesa. Mae Sadyrnau bob tro'n dod â naws bywiog ac eithaf chaotic.
Ar ôl i bopeth fod yn barod, mae pawb yn gallu anadlu'n hapus. Elfen dwi'n ei fwynhau o'r dydd yma yw croesawu pobl newydd i'r ynys.
Mae pawb yn dod â rhywbeth unigryw i Enlli ac mae'n hwyl dod i 'nabod criw newydd o bobl bob wythnos.

Y Wardeiniaid (Emyr, Lois, Mari ac Aron)
Mwy o Enlli

Am dro i ben y mynydd i weld y machlud

Gwylio'r machlud

Polytunnel Mari ac Emyr

Awyr las tu ôl i'r abaty
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Mehefin
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2024