Tîm pêl-droed yng Nghaernarfon yn ôl am y trydydd tro

Mae tîm Caernarfon Borough wedi cael ei adfywio am y trydydd tro
- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed lleol yng Nghaernarfon wedi cael ei adfywio am y trydydd tro yn ei hanes a hynny 40 mlynedd ers sefydlu'r clwb yn y lle cyntaf.
Alex Philp sydd y tu ôl i'r ffaith fod tîm Caernarfon Borough yn ôl yn chwarae ym mhumed haen o bêl-droed yng Nghymru.
Mae gan Alex enw am un sydd wedi bod yn rhan o adfywio clwb lleol arall yn y gorffennol.
Roedd degawdau wedi pasio ers i glwb Mountain Rangers chwarae gêm gystadleuol, ond yn 2018 fe ffurfiwyd y clwb eto gyda Alex yn rheolwr.
Pam felly ail sefydlu clwb lleol yng Nghaernarfon a beth yw gobeithion Caernarfon Borough at y dyfodol?
Alex Philp fuodd yn siarad gyda Cymru Fyw yn ogystal ag Andy Walton, cyflwynydd podlediad Y Byd yn Grwn.

Alex Philp sy'n gyfrifol am ail ffurfio'r clwb ac sydd hefyd yn rheoli'r tîm
"Mae Borough wedi bod yn mynd ers canol yr 1980au ac yn rhoi chance i hogiau lleol chwarae, ac os wyt ti ddim digon da i wneud yr academies, yna mae Borough wastad wedi bod yn opsiwn," meddai Alex.
Yn 1985 ffurfiwyd y clwb yn wreiddiol gyda'r rhan fwyaf o'r chwaraewyr yn dod o ail dîm clwb Tref Caernarfon sydd bellach yn chwarae ym mhrif adran Cymru.
Meirion Williams sefydlodd y clwb yn gyntaf fel clwb ieuenctid, ond yn sydyn iawn daeth tîm y dynion i fod yn cystadlu yng nghynghrair Caernarfon a'r cylch yn wythnosol.
Roedd y chwaraewyr i gyd yn byw'n lleol ac yn yfed yn nhafarn y Crown yng nghanol y dref.
'Dim digon o glybiau lleol'
Eu cartref nhw oedd Cae Top, sy'n enwog am fod yn un o'r meysydd oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfres C'mon Midffîld.
Yn ogystal â rheoli'r tîm presennol, mae Alex hefyd wedi ysgrifennu llyfr am hanes y clwb, ac ar ganol ysgrifennu ei ail gyfrol am hanes mwy diweddar Caernarfon Borough.
"Nath y clwb ddod i ben tua 10 mlynedd yn ôl ac roedd pawb yn eistedd rownd bwrdd yn y pub yn cwyno fod 'na ddim digon o glybiau lleol ac ein bod yn colli caeau, felly nes i benderfynu neud rwbath amdano.
"Rydan ni wedi penderfynu rhoi cyfle i'r hogia ifanc, mae 'na rai o'r rhain yn chwarae eu pedwaredd gêm yn erbyn oedolion, maen nhw wedi dod o'r under 16's a'r under 17's lleol, ond rydan ni am sticio efo nhw," meddai.

Llun o dîm cyntaf Caernarfon Borough nôl yn 1985
Daeth cyfnod cyntaf Caernarfon Borough fel clwb i ben ar ddiwedd y 1990au a hynny oherwydd costau uchel a diffyg niferoedd ar y pwyllgor.
Ond yn 2003, fe wnaeth cefnogwr brwdfrydig oedd yn byw yn y dref benderfynu fod angen dod a Borough yn ôl.
Meddai Tyrone Duffy: "Dyna mae o i gyd amdan, rhoi cyfle i hogia ifanc a local, hogia sydd ddim digon da i chwarae i Caernarfon Town, ac os ydyn nhw ddigon da maen nhw'n gallu symud ymlaen i Caernarfon Town wedyn."
Rhwng 2003 a 2014 oedd cyfnod mwyaf llwyddiannus y clwb.
Fe wnaethon nhw ennill y Junior Cup Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Cymru yn 2006 - y tîm cyntaf o Gaernarfon i wneud hynny.
Fe orffennon nhw'n ail hefyd yn y gynghrair dros gyfnodau gwahanol, ond rhwng 2012-14 roedd hi'n anodd i'r clwb ddenu chwaraewyr a dyma benderfynu dod a'r clwb i ben am yr ail dro.

Roedd Tyrone Duffy (pedwaredd yn y rhes flaen) wedi helpu i ail sefydlu'r clwb yn 2003
"Mae wastad dau dîm wedi bod yng Nghaernarfon. Yn y gorffennol mae gen ti glybiau fel Wanderers, Athletic ac United, felly roedd hi'n amser i ddod ag ail glwb yn ôl," meddai Alex.
"Mae'n anodd, dwi'm yn meddwl fod pobl yn sylweddoli faint o waith ydio.
"Y peth hawdd ydi diwrnod y gêm, ti jest yn rhoi'r nets i fyny a chael gêm, be' 'di pobl ddim yn weld ydi'r petha fatha registro, this that and the other a ffendio digon o bres.
"Mae'n rhaid i chdi gael pob dim yn ei le, back in the day odda chdi'n cael form, talu punt amdani a'i harwyddo hi, ond ma petha'n wahanol dyddia yma.
"O ran y dyfodol dwi jest isho gweld yr hogia ifanc 'ma yn cael cyfle i chwarae. Mae 'na rai ar y cae i ni ond yn 17 oed, a dwi'n prowd iawn ohonyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Ebrill