Angharad Llwyd: Cast Rownd a Rownd yn 'un teulu mawr'

Angharad Llwyd a'i merch GwennoFfynhonnell y llun, Angharad LLwyd
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Llwyd a'i merch Gwenno

  • Cyhoeddwyd

"Mae pawb sydd wedi bod ar y gyfres ar hyd y blynyddoedd yn teimlo bod nhw'n dod yn ffrindiau oes. Mae'n teimlo bod ni'n rhan o un teulu mawr."

Dyma eiriau Angharad Llwyd, un o wynebau mwyaf cyfarwydd y gyfres deledu Rownd a Rownd, a ymunodd â'r cast yn syth ar ôl gadael ysgol yn 1997.

Mae'r rhaglen boblogaidd sy'n dathlu 30 mlynedd ar yr awyr eleni yn rhan fawr o'i bywyd: "Mae fel bod genna'i ddau fywyd – bywyd fi fy hun ond wedyn hefyd cael hwyl yn gwneud pethau mor wahanol mewn cymeriad mor wahanol drwy Sophie.

"Dwi wedi cael profiadau difyr byddwn i ddim yn mentro gwneud yn fy mywyd fy hun. Mae'n braf gallu rhoi fy nannedd i mewn i'r cymeriad – mae hynny yn hwyl garw."

Angharad ar gychwyn ei gyrfa gyda Rownd a RowndFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Angharad yn nyddiau cynnar Rownd a Rownd

Ac mae gweddill y cast fel teulu estynedig iddi erbyn hyn: "Mae pawb yn dod ymlaen heb drio'n rhy galed. 'Da ni'n gyd yn llywio yr un cwch ac yn trio cyrraedd yr un lle - y criw a'r actorion efo'r un nod yn y pen draw o gael cyfres sy'n arbennig.

"Da ni gyd yn teimlo gymaint o gariad at y gyfres ac isho iddi lwyddo.

"Mae 'na dynnu coes ar y set ond mae pawb yn cefnogi ei gilydd drwy'r amser.

"Dwi'n ffodus iawn ac yn pinsho fy hun yn aml o fod yn lwcus i fod yn rhan o rywbeth mor arbennig.

"Mae 'na fwrlwm ymhlith y cast i gyd achos 'da ni'n amlwg wedi bod yn ffilmio penodau cyffrous sy'n mynd i fod ar y sgrin ym Medi (i ddathlu'r 30 mlynedd ar sgrin). Maen nhw'n rhai o'r penodau gorau dwi wedi bod yn ran ohonynt."

Sophie yn Rownd a RowndFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi wedi cael profiadau difyr byddwn i ddim yn mentro gwneud yn fy mywyd fy hun..."

Ac mae'r teimlad teuluol ar y set wedi cynyddu i'r actores ers i'w merch, Gwenno, ymuno â'r cast yn dair mis oed i chwarae rhan Mair, sef merch Sophie yn Rownd a Rownd.

Esbonia Angharad: "Mae'r gyfres yn rhan fawr o fywyd ein teulu ni yma ers i Gwenno gael ei geni.

"Digwyddodd hynny oherwydd pan o'n i'n ffilmio priodas Vince a Sophie mi ffeindiais i y bore hynny mod i'n disgwyl babi achos yn ystod y diwrnod ffilmio mi wnes i deimlo'n sâl. Ac ar yr un pryd wnes i ffeindio bod Sophie yn mynd i fod yn cael babi.

"Pan o'n i'n disgwyl rhyw wyth mis o'n i hefyd yn gorfod ffilmio rhoi genedigaeth ar y set – oedd hynny'n brofiad swreal ac roedd y criw yn nerfus mod i'n mynd i roi genedigaeth go iawn.

"Beth oedd yn handi oedd pan oedd Gwenno yn dechrau siarad oedd hi'n gweiddi 'mam' yn naturiol, oedd ddim angen iddyn nhw boeni bod hi'n siarad ar draws yr olygfa."

Angharad a GwennoFfynhonnell y llun, Angharad Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno ac Angharad

Gyda Gwenno bron yn 16 oed erbyn hyn mae wedi actio ar y set drwy gydol ei bywyd, meddai Angharad: "Mae'n rhan ohoni i fod yn perthyn i Rownd a Rownd ac yn mynd i actio ar set - mae'n ail natur iddi.

"Mae cymeriadau Mair a Gwenno yn hollol wahanol i'w gilydd a dwi'n gobeithio bod cymeriad Sophie ddim yn debyg iawn i fi!

"Mae'r ffaith fod 'na deulu estynedig Rownd a Rownd yn gefnogol iddi ym mhopeth mae'n neud yn rhoi sylfaen i fi ac i Gwenno.

"Pan oedd hi'n fabi oedd o'n eitha hawdd achos o'n i'n cael dod a mhlentyn fy hun i'r set. Pan ddechreuodd hi siarad falle bod hi'n siarad bach gormod ac oedd hi'n anodd pan oedd hi wedyn yn cael ei thynnu oddi ar y set weithiau.

"Beth sy'n braf yw bod ni'n mynd dros y llinellau adra ac yn gweiddi ar ein gilydd weithiau.

"'Da ni'n cael llawer o hwyl wrth ddadlau a mynd dros ben llestri.

"Beth sy'n anodd yw pan mae isho rhoi trefn ar bethau bod fi'n ofn swnio'n rhy debyg i Sophie felly dwi'n dal yn ôl!

"Mae Sophie dipyn mwy llym ar Mair na ydw i ar Gwenno – dwi ddim angen bod mor llym ar Gwenno."

Priodas Sophie a EifionFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Priodas Sophie a Eifion

Mae 'na dipyn o hwyl ar y set, yn ôl Angharad: "O bryd i'w gilydd mae 'na ambell i un yn dweud, 'O Gwenno ti'n rêl dy fam' ar ôl gorffen rhyw olygfa.

"Mae na rai ar y set yn dweud, 'chdi oedd y gorau yn yr olygfa yna Gwenno'. Mae 'na lot o dynnu coes. Mae 'na deimlad teuluol o ran hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig