Gwireddu breuddwyd wrth sefydlu gorsaf radio ddwyieithog newydd

Dylan Jenkins yn DJioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr/Radio Sudd
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Jenkins, neu DJ Dilys, ydi sylfaenydd Radio Sudd

  • Cyhoeddwyd

Ers blynyddoedd roedd Dylan Jenkins yn teimlo bod angen gorsaf radio newydd ar Gymru oedd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth wahanol, ac felly fe sefydlodd un.

A'r wythnos yma fe lansiwyd gorsaf radio genedlaethol ddwyieithog Radio Sudd.

Y bwriad ydi cynnig arlwy gerddorol wahanol i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, sy'n chwarae cerddoriaeth amgen, bydeang, a rhoi llwyfan i bawb deimlo'n gyfforddus gyda'r iaith Gymraeg.

"Mae'n syniad fi wedi gael ers sawl blwyddyn," meddai Dylan, sy'n DJio o dan yr enw DJ Dilys.

"Fi wastad wedi bod yn ffan o radio ac yn arfer ateb ffôns i Radio Ceredigion, fues i'n gweithio 'da Radio Cymru am sbel pan o'n i'n fy 20au ac wedyn yn Llundain gyda Network a BBC Sounds a chynhyrchu podlediadau - ond fi bob tro wedi teimlo bod 'na ddiffyg radio o fath penodol yng Nghymru, mwy amgen ac yn chwarae cerddoriaeth bydeang."

Gareth Potter yn y stiwdioFfynhonnell y llun, Radio Sudd
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Potter - yma yn stiwdio Radio Sudd yn Paradise Garden, Caerdydd - ydi un o gyflwynwyr yr orsaf

Ar ôl ymchwilio i weld os oedd 'na gynulleidfa posib i wasanaeth o'r fath a sut i gynnal gorsaf, fe gafodd gymorth gan Media Cymru a nifer o wirfoddolwyr i fynd amdani.

Fe wnaeth caffi-bar Paradise Garden, yn ardal Y Rhath, Caerdydd, roi gofod iddyn nhw sefydlu eu stiwdio.

Ond ar gyfer y rhaglenni sydd ddim yn dod o'r brifddinas, mae Dylan wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru i'w recordio o flaen llaw. Y gobaith hir dymor ydi hyfforddi pobl mewn gwahanol ardaloedd a chael stiwdios bach cymunedol ar draws Cymru.

Mae'r cyflwynwyr, sy'n cynnwys Don Leisure, Jake Cornford, Sannan Morgan a Cerys Hafana, yn dod o bob cwr o Gymru.

Mae Dylan ei hun yn byw yng Nghaerdydd ond yn rhan o grŵp Whatsapp gyda phobl eraill ar draws y byd sy'n caru radio ac wedi creu gorsafoedd eu hunain yn eu cymuned.

Talulah yn recordioFfynhonnell y llun, Radio Sudd
Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynydd Talulah yn recordio ar leoliad

Mae wedi cael cyngor am sefydlu gorsaf ddwyieithog gan bobl sydd wedi gwneud hynny yn barod yng Ngwlad Belg a Gwlad Thai.

Fe fydd hanner y rhaglenni'n Gymraeg a'u hanner nhw'n Saesneg. Maen nhw'n gobeithio creu gorsaf gynhwysol lle fydd siaradwyr newydd, dysgwyr a rhai sy'n ansicr am eu Cymraeg yn gallu teimlo'n ddigon cyfforddus i gyfrannu yn y Gymraeg - a gwrando ar y Gymraeg.

Roedd yr ymateb yn gadarnhaol ar ôl diwrnod cynta'r orsaf newydd, meddai Dylan:

"Dwi'n meddwl gan fod e am gerddoriaeth yn bennaf, mae pobl yn tiwnio fewn oherwydd bod nhw'n hoffi'r DJ a chwaeth y DJ.

"Ar ôl y bore cynta' ges i negeseuon gan bobl ddi-Gymraeg oedd wedi mwynhau gwrando ar Talulah."

Cynlluniau i'r dyfodol

Gyda rhyddhad bod yr orsaf wedi ei lansio, y sialens nesaf fydd dod o hyd i ffyrdd i'w gynnal dros y tymor hir. Unwaith eto, mae ei ymchwil a'i gysylltiadau ar draws y byd wedi arwain at wahanol opsiynau.

Un syniad ydi agor caffi neu far fyddai'n gartref i'r orsaf. Radio Sudd fyddai'n cael ei chwarae yn y lleoliad, a byddai elw o'r bar yn helpu i dalu am yr orsaf. Syniad arall ydi creu asiantaeth DJ a bod rhan o'r elw o fwcio un o DJs yr orsaf yn mynd tuag at Radio Sudd.

Ers dyfodiad y teledu mae pryderon wedi codi'n gyson am ddyfodol radio - ond mae'r cyfrwng wedi addasu a pharhau, gyda podlediadau a'r chwyldro digidol wedi dod a chynulleidfa newydd yn ddiweddar.

Mae'n bosib gwrando ar Radio Sudd unrhywle yn y byd ar eu gwefan neu drwy ap Radio Cult ac fe fydd ar gael ar declynnau clyfar ac ap penodol yn y dyfodol.

"Mae ystadegau yn dangos bod twf mawr yn faint o bobl sy'n gwrando ar radio ar y we oherwydd mae'n fwy hygyrch nawr," meddai.

"Mae pobl yn gwrando drwy ddefnyddio mwy ar eu seinydd clyfar neu AI functions ar eu ffonau, mae pobl yn hapus i wrando drwy ap ac mae hynny'n tyfu ym Mhrydain."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig