Sioe Pum Diwrnod o Ryddid yn 'ail-fyw' gwrthryfel y Siartwyr yn Llanidloes

Cwmni Theatr Maldwyn yn perfformio Pum Diwrnod o Ryddid Ffynhonnell y llun, Cwmni Theatr Maldwyn
  • Cyhoeddwyd

Bydd cynhyrchiad newydd o Pum Diwrnod o Ryddid yn cael ei berfformio ar y stryd lle digwyddodd gwrthrhyfel Y Siartwyr yn 1839.

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, esboniodd un o gynhyrchwyr y sioe, Penri Roberts, pam fod Cwmni Theatr Maldwyn wedi penderfynu llwyfannu perfformiad awyr agored o Pum Diwrnod o Ryddid yn Llanidloes ar ddydd Sul 14 Medi.

Roedd y cwmni eisoes wedi bod yn perfformio'r sioe am hanes gwrthryfel Y Siartwyr mewn theatrau eleni, esbonia Penri: "O'n i'n meddwl mai dyna oedd ei diwedd hi.

"Ond wedyn dyma fachgen lleol, Roland Davies, sy' wedi dysgu Cymraeg ac oedd o'n chwarae un o'r prif rannau yn y sioe, yn dweud 'fuasai'n neis i wneud perfformiad byw ar y stryd yn Llanidloes le digwyddodd yr hanes.'

"Dwi ofn y perfformiad stryd am mod i'n hapus yn gweithio mewn theatr – yr holl bethau sy'n gallu mynd o'i le ac wrth gwrs mi soniodd Roland wrth rai o bobl cyngor y dre ac oedd y cyngor yn frwd iawn am fod o'n dathlu hanes y Siartwyr. Mi ddaru nhw gefnogi fo a chefnogi o'n ariannol.

"Ac wedyn mi benderfynwyd mynd ymlaen â'r syniad.

"Mae o'n dipyn o beth achos mi fydd y llwyfan ar draws Stryd y Dderwen Fawr ac mi fydd y gynulleidfa yn edrych i fyny'r stryd sy' eitha hir. A gobeithio gawn ni dywydd sych i'r sioe."

Penri Roberts efo Linda GittinsFfynhonnell y llun, Penri Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Penri Roberts efo Linda Gittins, un o gyd awduron y sioe

Perfformiwyd y sioe gan Penri Roberts, Derek Williams a Linda Gittins am y tro cyntaf yn Theatr Hafren Y Drenewydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1988.

Mae'n adrodd hanes gwrthryfel y Siartwyr yn Llanidloes ym 1839, digwyddiad pwysig yn hanes Cymru pan frwydrodd y bobl gyffredin dros eu hawliau democrataidd, gan lwyddo i gymryd rheolaeth o dre Llanidloes am bum diwrnod.

Mae Penri'n esbonio pam fod y gynulleidfa'n uniaethu gyda'r sioe: "'Da ni fel cwmni wedi gwneud hanes Owain Glyndwr ond mae hwn yn agosach ato ni am fod o'n cychwyn ar frwydr gweithwyr cyffredin i gael hawliau a gwell amodau gwaith.

"Felly 'da ni gyd yn medru uniaethu efo hynny.

"'Da ni'n gwybod beth ydy hanes pobl cyffredin mewn ffatrïoedd a phyllau glo. Mae'r hanes yn agos ata ni o ran brwydr ni o ran cael gwell amodau gwaith.

"Chwe pwynt y siarter oedd cael yr hawl i gael pleidlais i bob dyn dros 21 a'r hawl i Aelodau Seneddol gael eu talu. Oherwydd cyn hynny dim ond boneddigion oedd yn Aelodau Seneddol ac yn y dref oedd gyda chi ffatrïoedd gwlân ac ystadau amaethyddol gwledig a phopeth yn cael ei reoli gan y bobl hynny.

"Oedd amodau gwaith gweision fferm yr un fath – yn ddifrifol wael ac yn aml yn y ffatri yn cael eu talu gyda talebau, nid arian, ac yn gorfod gwario'r talebau mewn siop oedd perchennog y ffatri yn berchen.

"Mae'n agos ata ni fel Cymry bod ni'n ran o'r frwydr. Dim ond mewn dau le oedd gwrthryfeloedd fel hyn – yr un mawr yng Nghasnewydd ac yn Llanidloes.

"'Da ni'n perfformio o flaen gwesty y Trewythen lle wnaeth y siartwyr ymosod.

"Allai ddim fod mewn lle mwy addas – reit wrth ymyl y gwesty ac allwn ni ail-fyw y digwyddiad."

Cwmni Theatr Maldwyn yn perfformio Pum Diwrnod o Ryddid Ffynhonnell y llun, Cwmni Theatr Maldwyn
Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Theatr Maldwyn yn perfformio Pum Diwrnod o Ryddid

Prif bryder Penri am y sioe yw'r tywydd: "Yr unig beth sy'n neud fi'n nerfus yw beth fydd y tywydd yn gwneud. Os ydy hi'n bwrw glaw yn ysgafn dydy o ddim yn broblem achos mae'r cast a'r band dan do.

"Ddaru ni ysgrifennu'r sioe yn 1988 ac ddaru ni wneud taith adeg Eisteddfod yr Urdd yn y Drenewydd.

"Mae lot o amser wedi bod ers i ni wneud y sioe ond mae'r neges dal yr un mor bwysig ag oedd o adeg hynny. Mae gweithwyr cyffredin dal yn gorfod ymladd am hawliau. Gobeithio fod pawb yn gweld hynny fel rhywbeth oesol."

Cwmni Theatr Maldwyn yn perfformio Pum Diwrnod o Ryddid Ffynhonnell y llun, Cwmni Theatr Maldwyn

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.