O'r syrcas i sgwennu: Bywyd lliwgar Derfel Williams

DerfelFfynhonnell y llun, Derfel Williams
  • Cyhoeddwyd

Mae Derfel Williams wedi gweithio mewn sawl maes gwahanol dros y blynyddoedd, ac mae newydd ddechrau ar ei antur ddiweddara' gan 'sgwennu ei nofel gyntaf, Y Cylch Cyfrin.

Yn wreiddiol o Borthmadog, mae Derfel yn byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd bellach ac yn gweithio fel cynhyrchydd radio i BBC Radio Cymru, gan gyfrannu hefyd i orsaf Radio Wales.

Ond, roedd ganddo yrfa dra wahanol yn y 90au a 00au cynnar, yn gweithio mewn syrcas gan deithio o gwmpas Prydain a thu hwnt.

"Dwi ddim yn cofio amser pan nad oeddwn wedi gwirioni efo'r syrcas! Dwi ddim yn siŵr sut y cychwynnodd yr obsesiwn, ond dwi'n cofio dringo i ben y radiator yn y stafell 'molchi yn Port a gweld y faner yn hedfan o dop y babell fawr pan oedd y syrcas ar y Traeth [cae pêl-droed Porthmadog]."

'Pobl egsotig' yn dod i Port

Dywed Derfel fod yr olygfa o berfformwyr dieithr yn dod i'w dref enedigol wedi gwneud cryn argraff arno.

"Mi o'n i wrth fy modd yn eistedd ar y wal wrth y giât i'r Traeth yn gwylio'r babell yn cael ei pharatoi ac yn sylwi ar y bobol ddieithr 'ma, a oedd wedi ymddangos dros nos, ac oedd gymaint yn fwy egsotig na phobl Port!

"Wedyn mynd i wylio'r sioe a gweld y bobl 'ma wrth eu gwaith, wedi eu trawsnewid mewn gwisgoedd ysblennydd a cholur lliwgar."

DerfelFfynhonnell y llun, Derfel Williams
Disgrifiad o’r llun,

Derfel gyda Shân Cothi a Sian Thomas yn lansiad y nofel

Derfel oedd yr ieuengaf o dri o blant i Hugh a Menna Williams, gyda brawd a chwaer hŷn, Gareth a Nan.

"Dad oedd yn dueddol o fynd efo fi i'r syrcas – doedd Mam erioed wedi mwynhau syrcas," esboniai Derfel.

"Byddai Dad hefyd yn mynd a fi i Blackpool pob haf er mwyn i fi gael gweld y syrcas enwog sy'n cael ei llwyfannu yn yr adeilad godidog a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer llwyfannu syrcas, sydd wedi ei leoli rhwng coesau'r Tŵr."

Dilyn esiampl bachgen lleol

Roedd gan Derfel ysbrydoliaeth leol i'w ysgogi yn ei yrfa, gan fod bachgen arall o Borthmadog hefyd wedi ymuno â'r syrcas.

"O'n i 'di clywed am fachgen arall o Port oedd wedi ymuno efo'r syrcas! Roedd Gwynfor Owen wedi gwneud enw iddo'i hun yn perfformio ar y trapîs, a dwi'n cofio Mam yn sôn amdano'n dysgu ei act mewn ysguboriau ar ffermydd lleol.

"Roedd Gwynfor ymysg y 'chydig o berfformwyr gorllewinol a fu'n perfformio y tu ôl i'r Llen Haearn, a chafodd yrfa ddisglair efo sioeau enwog fel Billy Smart a Bertram Mills. Mi oedd gwybod fod bachgen o Port yn gallu cael gyrfa ym myd y syrcas yn ysbrydoliaeth i mi wrth dyfu i fyny.

"Wedyn dechreuais geisio efelychu'r perfformwyr drwy ymarfer jyglo – mi oedd jyglo yn rhywbeth cymharol hawdd i'w ymarfer yn fy stafell wely!"

Derfel yn y syrcasFfynhonnell y llun, Derfel Williams
Disgrifiad o’r llun,

Derfel yn ei rôl fel 'Ringmaster', ac yn arddangos ei sgiliau balansio

"Pan o'n i'n Ysgol Eifionydd, prynodd syrcas fferm fychan yng Nglandwyfach ger Garndolbenmaen. Mi oeddwn wedi cyfarfod y perchennog, Richard Viner, flynyddoedd cynt pan oedd o'n teithio Cymru efo syrcas arall ac erbyn iddo ddod i Glandwyfach, roedd yn rhedeg ei syrcas fechan ei hun.

"Circus Variety oedd enw'r sioe a cefais groeso cynnes iawn gan Richard a'i bartner Sue a mi ges i'r cyfle i deithio efo nhw yn ystod gwyliau haf o'r ysgol, yn perfformio fy act jyglo!

"Parhaodd hyn drwy fy nghyfnod yn y Coleg Normal, Bangor, yn dilyn y cwrs Cyfathrebu.

"Wedyn, pan oeddwn ar fin graddio cefais gynnig i ymuno efo syrcas mwy o'r new Circus Fiesta oedd hefyd yn bwriadu teithio o amgylch Cymru ac mi oedd y perchennog yn awyddus i gael rhywun oedd yn siarad Cymraeg i wneud rhywfaint o'r gwaith cyflwyno a chyhoeddi.

"Felly y diwrnod ar ôl cwblhau fy arholiad gradd olaf, ymunais efo'r syrcas yn llawn amser.

"Bum yn teithio wedyn am 11 mlynedd – yn perfformio fel jyglwr, yn gwneud act balansio ac wedyn fel ringmaster. Mae swydd ringmaster yn un difyr – yn ogystal â chyflwyno'r sioe i'r gynulleidfa, mae ringmaster hefyd yn gyswllt rhwng y rheolwyr a'r artistiaid."

Newid yn y Syrcas, a newid gyrfa

Yn ystod ei gyfnod gyda'r syrcas dywed Derfel y gwelodd newid yn y perfformiadau ac yn agwedd y cynulleidfaoedd tuag at y sioeau.

"Roedd y cyfnod yma'n gyfnod diddorol yn hanes y syrcas ym Mhrydain – roedd yn gyfnod o newid mawr.

"Mi oedd agwedd y cyhoedd tuag at anifeiliaid yn perfformio wedi newid ac felly mi oedd y syrcas draddodiadol dan fygythiad. Hefyd, mi oedd y cyhoedd yn fwy soffistigedig a ddim yn cael eu plesio mor hawdd!

"Ar ôl 11 mlynedd, roeddwn yn ymwybodol fod y diwydiant syrcas yn newid a hefyd mi oeddwn yn gwybod fod bywyd syrcas yn fywyd caled iawn, felly penderfynais adael pan oeddwn yn dal yn ddigon ifanc i ddechrau gyrfa arall. Yn y diwedd, rhedais i ffwrdd ac ymuno efo'r BBC!"

derfel
Disgrifiad o’r llun,

Derfel yn ei waith gyda Radio Cymru

Roedd gan Derfel ddiddordeb mewn ysgrifennu erioed, ond dim ond yn ddiweddar mae wedi mynd ati ei lunio nofel, gan gyfuno ei brofiadau ei hun â straeon gwreiddiol.

"O ran sgwennu, mi oeddwn wedi gwneud dipyn o ysgrifennu creadigol pan yn y coleg ond fawr ddim ers hynny, ond roeddwn yn ymwybodol fod gen i stori i'w dweud, a fy mod mewn sefyllfa unigryw fel Cymro oedd wedi profi bywyd syrcas mewn cyfnod o newid.

"Ffuglen ydi Y Cylch Cyfrin ond mae llawer o'r cymeriadau wedi eu hysbrydoli gan y bobl oeddwn yn eu hadnabod, a llawer o'r digwyddiadau yn seiliedig ar straeon yr oeddwn wedi eu clywed."

DerfelFfynhonnell y llun, Derfel Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mynd â'r Cylch Cyfrin i'r syrcas

Ysbrydoliaeth gan Gareth

Roedd brawd Derfel, Gareth F. Williams, yn awdur adnabyddus, yn ysgrifennu nofelau i blant ac oedolion yn ogystal â chreu nifer o gyfresi drama ar deledu. Enillodd Gareth wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2015 am ei nofel Awst yn Anogia, ac enillodd wobrau Tir na n-Og ar sawl achlysur.

Bu farw Gareth yn 2016, ond mae Derfel yn nodi ei frawd fel ysbrydoliaeth wrth iddo fentro i'r byd llenyddol.

"Yn anffodus, roedd Gareth wedi marw cyn i fi fynd ati i sgwennu go iawn, ond mi oedd gwybod ei fod o wedi gwneud gyrfa fel sgwennwr yn ysbrydoliaeth."

Dywed Derfel ei fod wedi mwynhau y broses o ysgrifennu ei nofel gyntaf, gan nodi bod posibilrwydd o ail nofel ar y gorwel.

"Mae Y Cylch Cyfrin yn dilyn hanes dau deulu dros dair cenhedlaeth, ac yn cychwyn yn yr Almaen jyst cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn cyrraedd Cymru.

"Mae'n portreadu bywyd teulu syrcas traddodiadol sy'n gyndyn o dderbyn fod newid yn anochel, a'r frwydr barhaol sy'n eu hwynebu wrth iddynt ddal eu gafael yn yr eliffant olaf ym Mhrydain!

"Mi wnes i fwynhau sgwennu a ma' 'na ryw nofel fach arall yn ffrwtian ar hyn o bryd, ond mond megis ei dechrau – a does 'na ddim eliffant yn agos at hon!!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig