'Llafur Cymru ar wahân i blaid y DU' - Eluned Morgan

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "benderfynol" o wneud yn siŵr fod Cymru yn dal gafael ar y gwerthoedd sy'n ein gwneud yn wahanol

  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur Cymru yn sefyll ar ben ei hun, ar wahân i blaid y DU, meddai'r Prif Weinidog, Eluned Morgan.

Mewn cyfweliad i nodi dechrau tymor newydd y Senedd, dywedodd wrth BBC Cymru ei bod yn "benderfynol o wneud yn siŵr bod pobl yn cydnabod" yng Nghymru, "ein bod yn dal gafael ar y gwerthoedd sydd wedi ein gwneud ni'n wahanol erioed".

Daeth ei sylwadau ar ôl wythnos gythryblus - lle bu Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, yn wynebu craffu dwys ynghylch penodi llysgennad yr Unol Daleithiau Peter Mandelson.

Mae ei sylwadau'n arwydd o wahanu ymhellach oddi wrth Blaid Lafur y DU, yn dilyn ei haraith ym mis Mai - lle yr addawodd hi i herio Syr Keir pe bai hi'n anghytuno gydag ef - gan fathu'r ymadrodd "y ffordd Gymreig goch".

Owain Williams
Disgrifiad o’r llun,

Honnodd Owain Williams fod yna bobl yn y blaid oedd yn "trio creu trafferth - oedd yn awyddus iawn i sicrhau bo' fi ddim yn ymgeisydd"

Ond mae 'na rai yn y blaid yn ofni bod hollt yn y blaid - yn anghytuno gyda chyfeiriad y blaid yng Nghymru, fel Owain Williams - oedd yn siarad ar bennod ddiweddaraf podlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru.

Roedd Mr Williams yn gobeithio sefyll dros y blaid yn etholiadau Senedd Cymru flwyddyn nesaf - ond methodd a chael ei ddewis.

Dywedodd ei fod yn "poeni" fod yna garfan o'r Blaid Lafur yng Nghymru gyda phroblem hefo Cymreictod a'r iaith Gymraeg.

Mae'r Blaid Lafur wedi derbyn cais am ymateb i'r honiad hwnnw.

O ran yr hollt honedig, dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru eu bod yn falch o'u rôl, gyda Llafur y DU, "wrth gyflawni datganoli, ac er y gall ein llywodraethau weithiau gymryd dulliau gwahanol, rydym bob amser yn unedig yn ein hymrwymiad i gyflawni dros Gymru."

'Hwn yn swnio'n rhy genedlaetholgar'

Dywedodd Owain Williams ei fod "wedi cael digon i fod yn onest, o orfod cyfiawnhau a phobl o fewn y Blaid Lafur yn gweud wrthaf i: 'Nage chi yn y blaid anghywir?'"

"Fe ges i neges wedi'i basio ata i, yn amlwg yn fod i 'nghyrraedd i gan un o swyddogion y blaid yng Nghymru - o gwmpas Gŵyl Ddewi eleni," meddai Mr Williams.

"Roeddwn i wedi gwneud fideo i'r cyfryngau cymdeithasol oedd yn ddwyieithog, yn dyfynnu Gwyn Alf ac yn y blaen.

"Y neges oedd: 'Da ni ddim yn licio hwn. Ma' hwn yn swnio'n rhy genedlaetholgar."

Ychwanegodd ei bod hi'n "anodd peidio cyrraedd y casgliad, pan i chi'n clywed y pethe 'ma".

Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Keir Starmer wedi wynebu craffu dwys ynghylch penodi llysgennad yr Unol Daleithiau Peter Mandelson

Esboniodd Mr Williams iddo gynnig ei hun fel ymgeisydd Llafur ym mro ei febyd, etholaeth Ffynnon Taf yng Nghaerdydd.

Mae'n honni fod yna bobl yn y blaid oedd yn "trio creu trafferth - oedd yn awyddus iawn i sicrhau bo' fi ddim yn ymgeisydd".

Dywedodd ei bod hi'n "anodd cyrraedd casgliad - nad oes yna rywbeth o ran carfan tu ôl i hwn."

"Dwi ddim yn cymryd y peth yn bersonol, dwi ddim yn credu gallech chi mewn gwleidyddiaeth - neu bydde chi'n mynd o'ch cof," meddai.

Mae gwahaniaeth barn wedi bod ers degawdau yn y Blaid Lafur ynglŷn ag agwedd at ddatganoli a rhai pethau eraill, meddai Mr Williams.

"Mae'n eitha' clir lle i fi arni ar y cwestiwn 'na o Gymreictod, ond wrth gwrs dyw hwnna ddim yn iste'n gyfforddus da pawb."

Ychwanegodd ei fod yn "siŵr fod hwnna yn rhan o'r peth, dwi ddim yn credu mai rhywbeth personol amda' i oedd e".

"Ond yn sicr, dwi'n credu bod 'na bobl sy'n anghytuno 'da cyfeiriad y blaid yng Nghymru."

'Y gallu i weithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn y DU yn bwysicach fyth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth mae gennym ddwy lywodraeth Lafur yn cydweithio i gyflawni dros bobl Cymru.

"Ar ôl 14 mlynedd o danfuddsoddi pan oedd y Torïaid yn San Steffan, gwelodd adolygiad gwariant mis Mehefin y setliad datganoli mwyaf mewn hanes.

"Dim ond y dechrau oedd hwn.

"Mae ein Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi'r arian hwnnw ar waith i amddiffyn a buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

"Mae'r gallu i weithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn y DU yn bwysicach fyth gyda chynnydd Reform UK a'u gwleidyddiaeth o ofn a rhaniad.

"Mae Llafur Cymru a Llafur y DU yn falch o'n rôl wrth gyflawni datganoli, ac er y gall ein llywodraethau weithiau gymryd dulliau gwahanol, rydym bob amser yn unedig yn ein hymrwymiad i gyflawni dros Gymru."

Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Gall Llafur yng Nghymru geisio darlunio ei hun fel rhywbeth gwahanol, ond mae'n dal i fod yn un blaid sy'n ceisio ymbellhau oddi wrth long sy'n suddo yn San Steffan".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.