Sgwrs WhatsApp wedi datgelu gang cyffuriau gwerth miliynau

Cafodd Robert Andrews ei ddedfrydu i 14 mlynedd ac wyth mis o garchar am arwain grŵp troseddol oedd yn cyflenwi gwerth miliynau o bunnau o gyffuriau
- Cyhoeddwyd
Ar yr wyneb roedd Robert Andrews yn ymddangos fel gweithiwr caled a thad i dri o blant.
Ond y tu ôl i ddrysau'r tŷ teras yng Nghasnewydd lle roedd yn byw gyda'i deulu, roedd yn rhedeg cynllun enfawr yn cyflenwi cyffuriau.
Yn ôl yr heddlu cafodd ei ddal ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i negeseuon WhatsApp, ble roedd Andrews yn rhannu jôc gydag arweinydd gang arall y bydden nhw unai yn filiwnyddion neu'n rhannu cell.
Roedd yr ymgyrch yn un o ymchwiliadau cyffuriau mwyaf Heddlu Gwent, gydag Andrews wedi cyflenwi bron i 100kg o gocên a heroin, gwerth miliynau o bunnau.
'Gronyn bach o wybodaeth yn gallu bod yn ddigon'
Yn gynnar yn 2023, derbyniodd Heddlu Gwent wybodaeth gan ymgyrch Tarian yn ne Cymru - tîm rhanbarthol sy'n gweithio i daclo troseddau difrifol wedi eu cynllunio.
Roedden nhw wedi arestio cyflenwr cyffuriau ym Merthyr Tudful o'r enw Kerry Evans, wedi cael gafael ar ei ffôn symudol ac wedi gallu cael mynediad at ei negeseuon WhatsApp.
Roedd Evans yn arweinydd cylch cyffuriau gwerth miliynau o bunnau, ac mewn cyswllt cyson â dyn o'r enw Robert Andrews yng Nghasnewydd.
"Weithiau does dim angen llawer iawn o wybodaeth," meddai'r Ditectif Arolygydd Ian Bartholomew o Heddlu Gwent.
"Weithiau mae gronyn bychan yn gallu bod yn ddigon i ddechrau'r gwaith."

Cafodd Andrews ei arestio ar ôl i'r heddlu gynnal cyrch ar ei gartref yn oriau mân y bore
Roedd y negeseuon WhatsApp rhwng y ddau yn awgrymu bod Robert Andrews yn gyflenwr cyffuriau ar "lefel uchel", ac fe gafodd Heddlu Gwent rybudd y byddai angen defnyddio "tactegau arbennig" gan y gallai fod yn anodd i'w ddal.
Felly fe wnaethon nhw benderfynu defnyddio swyddogion cudd i gadw golwg arno.
"Roedd i'w weld yn ddyn arferol, yn gwisgo dillad gwaith, byw mewn tŷ cyffredin gyda phartner a phlant," meddai'r Ditectif Sarjant wnaeth arwain yr ymchwiliad i'w ddal.
"Doedd dim byd yn sefyll allan amdano."
Does dim posib datgelu enw'r ditectif oherwydd natur y gwaith y mae hi'n ei wneud.
Fe wnaeth naw mis o gadw golwg ar Andrews ddatgelu ei fod yn ymweld yn gyson â lleoliad sy'n cael ei adnabod fel 'the clearing' - darn o dir ar ochr yr M4 ger Casnewydd, lle cafodd sawl achos o drosglwyddo cyffuriau eu dal ar gamera.
£650,000 mewn pythefnos i'w gyflenwr
Fe wnaeth un o'r achosion rheiny arwain at arestio gyrrwr tacsi, Mohammed Yamin, ar yr A472 ger y Coed Duon, ar ôl iddo yrru i'r darn o dir i gasglu 2kg o gocên gan Andrews.
Roedd y cyffuriau yn werth tua £200,000, ac fe gafodd Yamin ddedfryd o chwe blynedd a hanner o garchar am fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi.
Roedd o wedi cael ei recriwtio gan Samuel Takahashi, 34 o Gasnewydd, gafodd ei ddisgrifio gan yr heddlu fel "aelod arwyddocaol" o'r grŵp, oedd yn ddirprwy i Andrews.
Roedd o hefyd wedi cael ei ddal ar gamerâu'r heddlu yn y 'clearing' yn cyfnewid cyffuriau gydag Andrews.

Daeth i'r amlwg fod Andews yn ymweld yn gyson â lleoliad sy'n cael ei adnabod fel 'the clearing' i gyfnewid cyffuriau ac arian
Wrth gadw golwg ar Andrews, roedd yr heddlu hefyd yn sylwi ei fod yn defnyddio ffordd benodol o wneud yn siŵr bod yr arian yn mynd i'r cyflenwr.
Mewn un trosglwyddiad, mae'n cael ei weld yn cymryd papur £5 gan ddyn sy'n mynd i mewn i'w gar ac yn archwilio'r arian.
Mae'n gwybod bod rhywun yn cyrraedd o Lundain i gasglu'r arian i'r cyflenwr.
Mae'r rhif cyfresol (serial number) sydd ar yr arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau ei fod yn cael ei drosglwyddo i'r person cywir.
Cafodd bag ei ddarganfod yn ddiweddarach gyda £109,000.
Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod tystiolaeth ar ffôn Andrews ei fod yn gwneud taliadau cyson o symiau tebyg i'w gyflenwr.
Mewn pythefnos yn unig roedd wedi gwneud chwe thaliad i'w gyflenwr - cyfanswm o £650,000.
Ffôn yn allweddol i'r ymchwiliad
Ar ôl casglu digon o dystiolaeth roedd yr heddlu yn ffyddiog eu bod yn gwylio grŵp troseddol ar waith, ac fe wnaethon nhw gynnal cyrch ar gartref Andrews yn oriau mân y bore.
Dywedodd y swyddog wnaeth arwain yr ymchwiliad eu bod yn cynnal cyrch o'r fath er mwyn atal gwaredu tystiolaeth, sicrhau nad ydy troseddwyr yn gadael y safle, ac i wneud yn siŵr bod pawb yn ddiogel, gan gynnwys y bobl sydd y tu mewn i'r eiddo.
Mewn un ymgais olaf i gelu tystiolaeth, fe daflodd Andrews ei ffôn symudol i dop y cwpwrdd yn ei ystafell wely cyn i'r heddlu ddod i mewn i'w arestio.
Dywedodd y swyddog bod Andrews yn ymddangos yn ddi-hid ac yn chwerthin wrth gael ei arestio.
Cafodd ei ffôn ei ddarganfod, ac roedd yn allweddol i'r ymchwiliad gan ei fod yn cynnwys rhestrau manwl - pwy oedd wedi archebu beth, faint o arian oedd yn ddyledus iddo, a faint o arian oedd ganddo'n ddyledus i'w gyflenwyr.

Dywedodd swyddog heddlu bod Andrews yn ymddangos yn ddi-hid ac yn chwerthin wrth gael ei arestio
"Doedd Robert Andrews ddim yn rhywun oedd yn cyflenwi cyffuriau ar gornel stryd i'w ffrindiau," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Andrew Tuck.
"Roedd yn cyflenwi symiau sylweddol o gyffuriau, fyddai'n cyfateb i werth bag o siwgr ar y tro o gocên."
Roedd yr heddlu yn credu mai Andrews oedd prif aelod grŵp troseddol oedd yn cyflenwi cocên a heroin ar draws de Cymru.
Dywedodd y swyddog cudd wnaeth arwain yr ymchwiliad mai dyma "heb os yr achos mwyaf" roedd hi erioed wedi ymwneud ag ef.
Lle aeth yr arian?
Doedd Robert Andrews ddim yn dangos arwyddion ar yr wyneb o gyfoeth mawr drwy gael ceir neu ddillad drud, ond mae'r heddlu yn credu ei fod yn defnyddio'r elw o'r cyffuriau i adeiladu tŷ newydd.
Pan wnaeth yr heddlu gynnal cyrch ar y cartref oedd heb ei gwblhau, fe wnaethon nhw ddarganfod cegin oedd wedi costio "bron i £60,000", a dodrefn ac eitemau eraill oedd yn awgrymu lefel o gyfoeth "na fyddai person cyffredin yn gallu ei fforddio", yn ôl y swyddog cudd wnaeth ei arestio.

Cafodd cannoedd o filoedd o bunnau mewn arian parod ei ganfod yng nghyrch yr heddlu, gan gynnwys y bocs esgidiau yma oedd â mwy na £100,000
Plediodd Andrews yn euog i ddau gyhuddiad - un o gynllwynio i gyflenwi cocên a heroin, a'r llall o gyflenwi'r cyffuriau rheiny.
Ond oherwydd nifer o achosion cysylltiedig, fe gymrodd bron i ddwy flynedd iddo gael ei ddedfrydu.
Ar 2 Medi 2025 cafodd Robert Andrews ddedfryd o 14 mlynedd ac wyth mis o garchar, gyda hanner y cyfnod i gael ei dreulio o dan glo a'r hanner arall ar drwydded.
Cafodd Samuel Takahashi, gafodd ei ddisgrifio gan yr heddlu fel "aelod arwyddocaol" o grŵp Andrews, ddedfryd o wyth mlynedd.
Wrth ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Carl Harrison bod cyflenwi cyffuriau yn "achosi dioddefaint", ac y dylai Andrews fod â chywilydd ei fod wedi tynnu ei fam ei hun i mewn i'w "ymgyrch droseddol".
Mewn achos ym mis Mawrth 2025 fe gafodd ei fam ddedfryd o garchar wedi'i ohirio am dalu un o gludwyr cyffuriau ei mab.
'Dim lle i gyffuriau yn ein cymdeithas'
Wrth gadw golwg ar Andrews, fe lwyddodd yr heddlu hefyd i adnabod un o'r cyflenwyr, Nathan Jones, 32 o Bolton.
Fe gafodd o ddedfryd o 18 mlynedd am werthu gwerth dros £1m o gocên i'r grŵp.
Roedd Jones wedi talu £2,000 i Rahail Mehrban, hefyd o Bolton, i symud gwerth £500,000 o gocên o Fanceinion i Gasnewydd.
Cafodd Mehrban ddedfryd o 10 mlynedd a naw mis.
Mae Kerry Evans, arweinydd y grŵp ym Merthyr Tudful, a'r dyn y gwnaeth ei negeseuon arwain yr heddlu at Andrews, yn treulio dedfryd o 14 mlynedd a phum mis o dan glo am redeg ei gylch cyffuriau ei hun.

Doedd Andrews ddim yn fodlon siarad gyda'r heddlu i ddechrau, cyn iddo bledio'n euog i ddau gyhuddiad
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Tuck: "Dwi'n gobeithio bod hyn yn anfon neges gref i unrhyw un sy'n ymwneud â'r math yma o droseddu neu'n ystyried gwneud hynny, nad oes gan droseddau cyffuriau unrhyw le yn ein cymdeithas, ac y bydd yna ganlyniadau o wneud hynny."
Yn ôl y swyddog wnaeth arwain yr ymchwiliad a dilyn Andrews am naw mis, mae sicrhau ei fod o dan glo yn rhoi boddhad, ond mae'r frwydr yn erbyn cyffuriau yn parhau, meddai.
"Petai ni'n gwneud dim i fynd i'r afael â chyffuriau fe fyddai ganddon ni lawer mwy o broblemau mewn cymdeithas," meddai.
"Fe fydd cyffuriau yno bob amser, ond rydyn ni yn cyfyngu arno."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.