Tata: Oedi cyn codi ffwrnais newydd?

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith o adeiladu'r ffwrnais yn dechrau yng Ngorffennaf

Dywed cwmni dur Tata Steel fod yna bosibilrwydd y bydd yn rhaid oedi cyn ailddechrau cynhyrchu dur mewn ffwrnais newydd sy'n cael ei adeiladu ym Mhort Talbot.

Ond pwysleisiodd Tata y bydd y prosiect gwerth £185 miliwn i ailadeiladu ffwrnais rhif pedwar yn mynd ei flaen mis nesaf.

Dywed y cwmni y byddan nhw'n bwrw mlaen â chynlluniau i wario £53 miliwn i foderneiddio'r safle cynhyrchu.

Dywed Jon Ferriman, un o reolwyr Port Talbot, fod Tata wedi ymrwymo i gynhyrchu dur yng Nghymru.

"Mae'n bosib na fyddwn yn ailgynnau ffwrnais Rhif 4 yn syrth ar ôl i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau."

Buddsoddi

Yn ôl prif swyddog masnachol y cwmni, Henrik Adam, fe fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn gorfod ystyried cyflwr y farchnad dur yn Ewrop.

"Fe fyddwn yn penderfynu oedi pe bai hi'n amlwg na fyddai hynny yn effeithio ar y lefel o wasanaeth mae ein cwsmeriaid yn ei ddisgwyl," meddai.

Mae Tata yn cyflogi tua 7,500 o bobl yng Nghymru ac ym mis Ebrill cyhoeddwyd y byddan nhw'n buddsoddi £240 miliwn mewn gwahanol brosiectau.

Dywedodd llefarydd busnes y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Nick Ramsay, ei fod yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal cyfarfod gyda Tata mor fuan â phosib.

"Mae'r posibilrwydd y bydd yna oedi - er gwaetha'r buddsoddi mawr - yn amlwg yn achosi peth pryder."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol