Caerdydd yn gartref i Super Cup UEFA yn 2014

  • Cyhoeddwyd
Barcelona yn dathlu ennill Super Cup UEFA yn 2011Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Barcelona yn ennill y gystadleuaeth yn 2011

Mae UEFA wedi cyhoeddi y bydd enillwyr Cynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Europa yn wynebu ei gilydd yng Nghaerdydd mewn dwy flynedd.

Ers ei chynnal am y tro cyntaf 14 blynedd yn ôl, Monaco sydd wedi bod yn gartref i gêm y Supercup.

Fe wnaeth UEFA gyhoeddi ddydd Sadwrn y bydd y rownd y gêm yn 2014 yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond dydi'r lleoliad yng Nghaerdydd ddim wedi ei gadarnhau.

Petai dau glwb mawr yn y rownd derfynol, mae'n bosib y gall y gêm gael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru bod hyn yn "newyddion gwych".

Timau gorau

"Mae'n dangos unwaith eto bod ein prifddinas yng 'nghynghrair y pencampwyr' ei hun o ran cynnal prif ddigwyddiadau chwaraeon.

"Fe fydd y gystadleuaeth yn hwb sylweddol, nid yn unig i'r ddinas ond i ddelwedd fyd-eang Cymru."

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Jonathan Ford, eu bod yn falch fod Caerdydd yn mynd i lwyfannu gêm mor arbennig.

"Mae'n gyfle gwych i gefnogwyr pêl-droed yng Nghymru weld y ddau dîm gorau yn Ewrop mewn un gêm arbennig."

Eleni fe fydd Chelsea, enillodd Gynghrair y Pencampwyr, yn wynebu enillwyr Cynghrair Europa, Atlético Madrid, yn Monaco ar Awst 31.

Bydd y gystadleuaeth yn symud i Brâg ac i Stadiwm Eden y flwyddyn nesaf.

Yn Tblisi, Georgia, y bydd y rownd derfynol yn 2015.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol