Cyhoeddi llwybr ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd

  • Cyhoeddwyd
ffordd osgoi BontnewyddFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y "llwybr porffor" ei arddangos fel un dewis yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2010

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi beth fydd llwybr ffordd osgoi newydd Caernarfon a Bontnewydd.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, mai'r "llwybr porffor" oedd y dewis cyntaf ar gyfer ffordd osgoi pentrefi Bontnewydd, Dinas a Llanwnda a'r bwriad fyddai dechrau'r gwaith ar ddiwedd 2015.

Bydd llwybr y ffordd newydd yn dechrau ger trofan y Goat ger Llanwnda (A499/A487) gan fynd heibio Dinas a Bontnewydd i'r gorllewin ac yna i'r dwyrain o Gaernarfon a Stad Ddiwydiannol Cibyn cyn ail gysylltu gyda'r A487 ger ffordd osgoi'r Felinheli.

Daeth y penderfyniad i fwrw 'mlaen gyda'r llwybr newydd - oedd yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol - wedi ymgynghoriad cyhoeddus.

Yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd cafwyd tagfeydd traffig am filltiroedd yn yr ardal ac mae rhai wedi galw am ffordd osgoi yno ers blynyddoedd.

Mesurau eraill

Fel rhan o'r cynllun bydd mesurau trafnidiaeth lleol ychwanegol sy'n cynnwys :-

  • Cyfyngu ar symudiadau traffig o gyffordd ysgol Bontnewydd;

  • Darparu parcio i geir yng Nglan Beuno;

  • Cynyddu capasiti'r ffordd rhwng trofannau St Davids a Morrison;

  • Gwella'r rhwydwaith presennol ym Mhlas Brereton.

Roedd arddangosfa yn 2010 oedd yn cynnig cyfle i'r cyhoedd leisio'u barn am lwybr y ffordd osgoi.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi paratoi "fideo gwneud" yn dangos beth fyddai'r "llwybr porffor" sydd wedi cael ei ddewis.

Ond mae'r ffordd osgoi wedi bod yn destun dadlau yn yr ardal gydag un dyn busnes yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o gyhoeddi "pamffledyn camarweiniol" ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Cam nesa'r cynllun fydd datblygu cynllun cychwynnol i'r ffordd osgoi a pharatoi i gyhoeddi'r gorchmynion a datganiad amgylcheddol.