Tafarn y Vulcan yn cael ei dymchwel a'i symud i Amgueddfa

  • Cyhoeddwyd
Gwesty'r VulcanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Y Vulcan yw un o dafarndai hynaf y brifddinas

Mae'r gwaith o ddymchwel un o dafarndai hynaf Caerdydd, a'i symud i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, wedi dechrau.

Mae'r Vulcan yn Adamsdown yn dyddio o'r 19eg Ganrif.

Fe wnaeth y bragwyr SA Brain gau'r dafarn ym mis Mai eleni, gan ddweud nad oedd dyfodol masnachol iddi.

Y disgwyl yw i'r gwaith bara tan Fedi 30 eleni.

Gan fod bygythiad wedi bod ers blynyddoedd y gallai'r adeilad gael ei ddymchwel, llofnodwyd deiseb gan 5,000 o bobl yn galw am ei ddiogelu.

Siomedig

Cafodd cais i Cadw, sef sefydliad hanesyddol Llywodraeth y Cynulliad, i ddiogelu'r Vulcan ei wrthod ar ôl dod i'r casgliad nad oedd yn bodloni'r meini prawf angenrheidiol ar gyfer adeilad o bwys cenedlaethol.

Mae pobl sy'n mynychu'r dafarn wedi dweud eu bod yn siomedig fod y Vulcan yn cael ei dinistrio, ond eu bod o blaid ei chadw hi yn yr amgueddfa.

Dywedodd perchnogion y dafarn, SA Brain, eu bod wedi derbyn gorchymyn prynu gorfodol oherwydd datblygiad canolfan siopa Dewi Sant.

Roedd y bragdy yn rhedeg y dafarn ar les o'r perchnogion, Marcol Asset Management Limited, sydd wedi cytuno i'w rhoi i'r amgueddfa.

'Croesawu'

Ym mis Mai dywedodd dirprwy gyfarwyddwr yr amgueddfa, Mark Richards: "Fe fydd y Vulcan yn cael ei chroesawu i'r casgliad o adeiladau hanesyddol yn Sain Ffagan.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Marcol am roi'r adeilad i ni".

Mae'r gwaith o gofnodi pob manylyn am y dafarn er mwyn ei symud yn fanwl gywir i'r Amgueddfa Werin wedi bod yn digwydd ers tro.

Cafodd y dafarn ei hagor am y tro cyntaf yn 1853.

Dywedodd yr amgueddfa na fydd y gwaith o ailadeiladu'r dafarn yn Sain Ffagan yn dechrau am sawl blwyddyn, ond maen nhw'n apelio am luniau hanesyddol ohoni yn y cyfamser.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol