Ffrae addoli mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd
Ydy galw am ddiddymu gwasanaethau ysgol yn "Secwlariaeth ffwndamentalaidd?" Dyna farn un arweinydd eglwysig.
Ond yn ôl Cymdeithas y Dyneiddwyr, mae mwy o bobol yn dymuno cael gwared ar addoli yn ein hysgolion na sydd am gadw'r arfer.
Maen nhw'n casglu enwau ar ddeiseb i'r Cynulliad yn gofyn am newid y drefn, ac mae'r gynghrair Efengylaidd wedi cyflwyno deiseb sydd am sicrhau dyfodol i wasanaethau yn ein hysgolion.
Yn wyneb bron i 4,000 o enwau ar ddeiseb y Gynghrair, a llai na 1,000 wedi llofnodi deiseb y Dyneiddwyr, mae Cymdeithas y Dyneiddwyr wedi comisiynu arolwg barn gan gwmni YouGov, sy'n awgrymu bod mwy yn cefnogi cael gwared ar addoli mewn ysgolion na'u cadw.
Ond beth sy'n digwydd yn ein hysgolion ar hyn o bryd?
'Myfyrdod'
"Cyfarfod Torfol" yn fwy na gwasanaeth yw cyfarfodydd boreol Ysgol Plasmawr yn ôl y pennaeth, John Hayes.
"Myfyrdodau ydyn nhw'n fwy na dim byd," eglura.
"Mae yna sail foesol i bob gwasanaeth ond cyfle yw e i blant i fyfyrio ar ryw thema arbennig."
Pan aeth BBC Cymru i wasanaeth boreol yn yr ysgol, Gemau Cymru yr Urdd oedd y thema, a'r disgyblion wedi paratoi'r cyflwyniad eu hunain.
Fe fydd y drefn ychydig yn wahanol o fis Medi ymlaen, gyda thema wahanol i bob wythnos o'r flwyddyn - o Gymreictod, cynhwysiant a chyfleoedd cyfartal i gofio'r holocost a diwrnod HIV.
"Fe fydd yna gyfnod Ramadan, fe fydd cyfnod y Pasg, fe fydd y Nadolig yn cael ei ddathlu, ac fe fydd yna esboniad am gefndir ac yn y blaen, gan gofio bod y mwyafrif helaeth o'n plant ni ddim yn mynychu unrhyw fath o fan addoli o gwbwl ar y Sul," eglura'r pennaeth.
"Mae dros 10% o'n poblogaeth ysgol ni o gefndiroedd ethnig, amlddiwylliannol, a beth dydyn ni ddim am wneud fel ysgol hynod gynhwysol yw eithrio unrhyw blentyn o unrhyw gyfarfod torfol.
"Mae cynhwysiant yn bwysig i ni, mae cyfle cyfartal yn bwysig i ni, ac felly mae'n bwysig nad ydym ni'n creu gwasanaethau sy'n mynd i wneud i blant deimlo'n anghyffyrddus oherwydd cefndir neu gred neu hil."
Arolwg barn
Fe fyddai cymdeithas y Dyneiddwyr yn dadlau nad oes angen gwasanaethau ag unrhyw ogwydd crefyddol - Cristnogol neu arall.
Yn arolwg gan YouGov fis Ebrill o bobol yng Nghymru, roedd 41% o'r rhai a holwyd yn gefnogol i ddiddymu addoli mewn ysgolion, tra bod 36% ohonyn nhw'n gwrthwynebu hynny - buddugoliaeth i'w hymgyrch yn ôl Richy Thompson, ymgyrchydd addysg y sefydliad.
"Mae'r canlyniadau'n cadarnhau ... bod y gyfraith fel ag y mae hi'n amhoblogaidd gyda rhieni, plant ac athrawon.
"Mae hi'n hen bryd cyfnewid yr arfer hen ffasiwn hwn gyda rhywbeth sy'n wirioneddol gynhwysol ac sy'n agor cynulliadau ysgol i'r myfyrwyr a'r athrawon i gyd a chreu ymdeimlad go-iawn o gymuned yn ein hysgolion."
Ond byddai rhai o fewn yr eglwys Gristnogol yn dadlau bod dymuniad Cymdeithas y Dyneiddwyr yn cael ei wireddu'n barod.
'Secwlariaeth ffwndamentalaidd'
Y Parchedig Aled Edwards yw prif weithredwr Cytûn, Eglwysi ynghyd yng Nghymru, ac mae'n gweld bod ymgynnull fel ysgol i ystyried cwestiynau mawr bywyd yn fuddiol i ddisgyblion.
"Dwi'n credu bod yna ddefnydd i wasanaethau oddi fewn i ysgolion yn yr ystyr bod o'n dod â'r gymuned at ei gilydd, mae o'n atgoffa plant o werthoedd hanesyddol y gwledydd yma ac yn arbennig Cymru a'i fod yn fynegiant os mynnwch chi o rywbeth sy'n cael ei rannu oddi fewn i'n hetifeddiaeth gyfoes ni hefyd," meddai.
Mae'n ychwanegu bod deiseb wedi ei llunio gan y Gynghrair Efengylaidd hefyd gafodd 3,915 o lofnodion; cafodd honno ei hystyried fis Mai gan bwyllgor deisebau'r Cynulliad gyda chefnogaeth cynrychiolwyr o sawl cred, nid dim ond Cristnogion.
"Dwi'n bryderus iawn ynglŷn â'r gymdeithas seciwlar," meddai'r Parch. Edwards.
"Dwi'n parchu'r bobol sydd yn dymuno ffurfio cymdeithas ar sail gwerthoedd sydd ddim yn cynnwys cred ond unwaith ydach chi'n croesi'r ffin i ddweud i bob pwrpas 'Rydym ni'n dymuno hepgor cred allan o fannau cyhoeddus, ei gyfyngu fo i'r aelwyd neu'r capal neu'r eglwys,' ma hwnna dw i'n credu yn rhoi stamp rhyw secwlariaeth ffwndamentalaidd ynglŷn â'r peth.
"Hynny yw, beth sy'n cyfri i chi, eich bod chi'n eithrio argyhoeddiad ac agwedd ar fywyd cymdeithas.
"Dydw i ddim yn credu bod hwnnw yn beth sydd yn perthyn i fyd cyfoes, cyfartal, goddefgar."
'Dim gorfodaeth'
Mae Cymdeithas y Dyneiddwyr yn wfftio'r sylwadau hynny. Yn ôl Martin Harries, sy'n ddyneiddiwr ers tair blynedd bellach, dwli pur yw bod eu safbwynt yn ffwndamentalaidd.
"Dw i ddim yn nabod unrhyw un sy'n credu pethau fel yna," meddai.
"Mae'r capeli ym mhob man, mae'r eglwysi ym mhob man, does neb yn atal unrhyw un rhag mynd iddyn nhw.
"Mae lan i bob un gredu beth maen nhw moyn, heb gael eu gorfodi: dyna'r pwynt - heb gael eu gorfodi."