Rhybudd i ardaloedd difreintiedig er bod disgwyliad oes yn gwella
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyliad oes yn codi yn arafach yn yr ardaloedd mwya' difreintiedig, yn ôl rhybudd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Mae iechyd ar gyfartaledd yn gwella' ac mae pobl yn byw yn hirach yn ôl adroddiad blynyddol olaf Dr Tony Jewell.
Dywedodd bod pobl yn byw bywydau iachach a bod disgwyliad oes dynion yn nesáu at ferched.
Ond mae marwolaethau sy'n gysylltiedig ag ysmygu ac alcohol yn fwy cyffredin yn yr ardaloedd tlotaf.
Fe wnaeth Dr Jewell gymhariaeth rhwng ardal Grangetown o Gaerdydd a Dinas Powys ym Mro Morgannwg.
Mae disgwyliad oes dyn yn Grangetown yn 71.5 mlynedd tra ei fod yn 81.8 mlynedd yn Ninas Powys sydd ryw 2.5 milltir o'i gilydd.
Ardaloedd difreintiedig
Ar draws Cymru mae'r disgwyliad oes wedi bod yn cynyddu ers 20 mlynedd, gyda dynion yn 77.6 mlynedd a merched yn 81.8 mlynedd.
Ond mae marwolaethau o ganlyniad i alcohol tair gwaith a hanner yn uwch yn yr ardaloedd difreintiedig i ddynion a dros ddwywaith yn uwch i ferched.
Mae marwolaethau o ganlyniad i afiechydon anadlu ac ysmygu hefyd ddwywaith yn uwch yn yr ardaloedd difreintiedig.
Yn yr adroddiad mar Dr Jewell hefyd yn dweud bod beichiogrwydd ymhlith merched ifanc ar ei lefel isa' ers 18 oed.
Dywedodd bod hyn yn gysylltiedig â chanlyniad iechyd gwael i famau a babanod.
"Mae gwella iechyd cyhoeddus yn golygu addewid i wneud newid hirdymor," meddai Dr Jewell, a fydd yn ymddeol ar ddiwedd yr haf.
"Wrth adlewyrchu ar y sefyllfa yng Nghymru yn fy adroddiad olaf, dwi'n falch o'r hyn sydd wedi ei wneud.
"Ond mae 'na lawer o waith i'w wneud eto a'i gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau iachus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2012