Prif Swyddog Meddygol newydd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Dr Ruth HusseyFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Dr Hussey brofiad helaeth ar draws iechyd y cyhoedd ac arweiniad clinigol

Bydd Ruth Hussey yn olynu Tony Jewell fel Prif Swyddog Meddygol Cymru pan fydd Dr Jewell yn ymddeol eleni.

Cafodd Dr Hussey ei eni yn y gogledd lle oedd yn byw tan iddi fynd i brifysgol.

Mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol Iechyd y Cyhoedd Gwasanaeth Iechyd Gogledd-Orllewin Lloegr ers 2006.

Ar hyn o bryd mae hi ar secondiad gyda Thîm Pontio Iechyd y Cyhoedd Lloegr a'r Adran Iechyd lle mae'n arwain trosglwyddo iechyd y cyhoedd i lywodraeth leol.

Mae ganddi brofiad helaeth ym maes iechyd y cyhoedd ac arweiniad clinigol.

'Anrhydedd'

Roedd hi'n arfer bod yn Gyfarwyddwr Strategaeth Iechyd/Cyfarwyddwr Meddygol yn Awdurdod Iechyd Strategol Sir Gaer a Glannau Mersi a Chyfarwyddwr Dros Dro Iechyd y Cyhoedd/Cyfarwyddwr Meddygol yn Awdurdod Iechyd Strategol Manceinion Fwyaf.

Cafodd Dr Hussey ei hyfforddiant clinigol mewn ysbytai ac mewn meddygfeydd meddygon teulu ac mae hi hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Lerpwl ac yn Uwch Ddarlithydd ym maes Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Lerpwl.

Dywedodd: "Mae'n anrhydedd cael fy mhenodi'n Brif Swyddog Meddygol Cymru.

"Mae anghydraddoldebau ym maes iechyd a phwysigrwydd cynnwys cymunedau mewn penderfyniadau am eu hiechyd a'u gofal nhw eu hunain o ddiddordeb arbennig i mi.

"Felly rwy'n edrych ymlaen at barhau gwaith gwych Dr Tony Jewell a'i dîm o ran gwella iechyd a lles pobl Cymru.

Mis Medi

"A'r lefel bersonol, dwi'n edrych ymlaen at ddod yn ôl i Gymru i fyw ac i wella fy Nghymraeg."

Mae'n debyg y bydd yn dechrau ym mis Medi ar ôl ymddeoliad Dr Jewell.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: "Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi dod o hyd i rywun o safon Dr Hussey i ddarparu cyngor clinigol i Lywodraeth Cymru ar ystod o faterion iechyd a gofal iechyd.

"Mae'n siŵr gen i y bydd yn olynydd teilwng i Dr Jewell ac edrychaf ymlaen at ei chroesawu i'r tîm nes ymlaen eleni."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol