Tata: Gweithwyr i gael llai o arian

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni yn dweud bod yna ostyngiad sylweddol yn nifer yr archebion.

Bydd traean o weithwyr cwmni dur Tata ym Mhort Talbot yn gweithio llai o shifftiau, ac yn cael llai o lwfansau tâl, o fis nesa ymlaen.

Mae penaethiaid y cwmni'n beio gostyngiad sylweddol yn nifer yr archebion.

Bydd y penderfyniad yn effeithio ar shifftiau gweithwyr yn ffatri'r cwmni yn Llanwern hefyd.

Mae'r cwmni wedi bod yn cyfarfod ag undebau i drafod y cynlluniau, fydd yn para tan fydd y farchnad yn gwella.

Dywedodd John Ferriman, rheolwr gyfarwyddwr Port Talbot a Llanwern, fod y cwmni yn wynebu sefyllfa anodd iawn.

50%

Yn ôl Mr Ferriman roedd y gostyngiad yn y galw am ddur yn y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn golygu bod rhai unedau dim ond yn cynhyrchu 50% o'r hyn oedd yn bosib.

Dywedodd fod y cwmni yn ystyried rhoi'r gorau i gynhyrchu saith niwrnod yr wythnos, a bod rhai unedau yn ystyried cynhyrchu rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Fis diwethaf cyhoeddodd y cwmni fod yna bosibilrwydd y bydd yn rhaid oedi cyn ailddechrau cynhyrchu dur mewn ffwrnais newydd sy'n cael ei adeiladu ym Mhort Talbot.

Yn ôl prif swyddog masnachol y cwmni, Henrik Adam, fe fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn gorfod ystyried cyflwr y farchnad dur yn Ewrop.

Ond pwysleisiodd Tata y bydd y prosiect gwerth £185 miliwn i ailadeiladu ffwrnais rhif pedwar yn mynd ei flaen mis nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol