Agor ffordd gyswllt yn Wrecsam sy'n costio £30 miliwn
- Cyhoeddwyd
Mae ffordd gyswllt, sy'n costio £30 miliwn, i Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn agor ddydd Llun.
Dechreuodd y cynllun yn 2010 i wella mynediad i'r stad lle mae oddeutu 300 o fusnesau.
Cafodd y ffordd ei gwblhau o fewn yr amserlen ac o fewn y gyllideb.
Mae'r ffordd i'r gogledd o Gylchfan Borras i Gylchfan Lôn y Bryn tra bod y ffordd i'r de o Cross Lanes i Five Fords.
Y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, sy'n agor y ffordd yn swyddogol ddydd Llun.
7,000
Cafodd y ffordd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Costiodd £30.3 miliwn er mai'r amcangyfrif gwreiddiol oedd £35 miliwn.
Mae disgwyl iddi wella mynediad i'r stad lle mae dros 7,000 o bobl yn gweithio.
Yn yr agoriad swyddogol mae rhes o lorïau â chysylltiadau gyda'r stad ddiwydiannol yn gyrru ar hyd y ffordd newydd.
Mae disgwyl y bydd y ffordd ddeuol i gyd ar agor i'r cyhoedd ar ddiwrnod yr agoriad swyddogol er y bydd tirlunio'r safle yn digwydd yn yr hydref.
Pryderon
Bu'n rhaid cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun wrth i nifer o dirfeddianwyr godi pryderon y byddai'r gwaith yn amharu ar eu bywyd pob dydd.
Roedd oedi ar un o'r cylchfannau yn gynharach eleni wrth i gontractwyr orfod cau ffyrdd cyfagos i wneud y gwaith.
Dywedodd rheolwr y cynllun, Paul Foulkes, cyn yr agoriad: "Ar hyn o bryd mae ffyrdd bychain gwledig yn cael eu defnyddio gan lorïau trymion sy'n gorfod pasio'i gilydd yn ystod oriau brig a thrwy'r dydd.
"Y peth allweddol i gyflogwyr yw bod amseroedd teithio yn mynd i fod yn fwy dibynadwy.
"Gall pobl sy'n defnyddio'r ffordd newydd fod yn eitha' sicr y bydd eu taith yn cymryd yr un faint o amser ag y bydd yr wythnos nesaf, y mis nesaf, y flwyddyn nesaf."