Fferm wynt fwya'r byd ger Ynys Môn?
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i godi fferm wynt yn y môr fyddai'r un fwya' yn y byd gam yn nes.
Mae cwmni Celtic Array wedi cyflwyno eu cynllun cychwynnol , dolen allanolar gyfer Fferm Wynt Rhiannon ger arfordir Ynys Môn i Arolygiaeth Gynllunio'r llywodraeth.
Byddai gan y fferm rhwng 147 a 440 o dyrbinau ac yn cynhyrchu hyd at 2.2 GW o ynni, sef y fwyaf yn y byd o ran cynnyrch ynni.
Ar ei agosaf, byddai'r fferm wynt 19 km o arfordir Ynys Môn a 34km o Ynys Manaw, ac fe fyddai'n cael ei chysylltu gyda'r tir mawr a'r Grid Cenedlaethol ar Ynys Môn.
Ymgynghoriad

Cyn i'r cynllun gael mynd yn ei flaen, mae angen cymeradwyo'r cynllun gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a bydd angen sêl bendith Llywodraeth Cymru am rhai o'r elfennau a gan Cyngor Sir Ynys Môn am osod yr offer ar y tir.
Mae BBC Cymru ar ddeall nid oes unrhyw benderfyniad ariannol wedi ei wneud hyd yn hyn ac nad oes unrhyw gais cynllunio wedi ei gyflwyno.
Mae'r rhan hon o Fôr Iwerddon yn un o 12 safle yn y DU lle y gallai fferm wynt yn y môr gael ei godi yn ystod y degawd nesaf.
Y disgwyl yw y bydd y cwmni - sy'n fenter ar y cyd rhwng Centrica a Dong Energy - yn cyflwyno cynlluniau manwl erbyn diwedd 2013 gyda'r nod o gychwyn y gwaith yn 2017.
Adroddiad Cwmpasu sydd wedi ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio i gael eu barn ynghylch yr effeithiau posibl y dylid rhoi sylw iddynt yn yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, a fydd yn rhan allweddol o'r cais.
Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio ddyletswydd i ymgynghori'n eang gyda chyrff statudol cyn gwneud penderfyniad arno.
Does dim penderfyniad pendant wedi ei wneud am leoliad y seilwaith ar y tir eto, megis lleoliad yr is-orsaf a llwybr(au) y ceblau ar y tir.
Mae Celtic Array yn cynnal trafodaethau gyda'r Grid Cenedlaethol ynghylch pwyntiau cysylltu posibl i'r rhwydwaith trosglwyddo trydan presennol yn y DU ar dir mawr y DU, a disgwylir y bydd y cysylltiad yn cael ei leoli ar Ynys Môn.
Bydd y seilwaith ar y tir yn destun gweithgarwch ymgynghori cyhoeddus a chais cynllunio i Gyngor Sir Ynys Môn.
Bydd gan y cyhoedd gyfle i leisio barn ar y cynllun, a dywedodd y cwmni eu bod yn disgwyl i'r broses honno gychwyn yn ystod hydref 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012