Dechrau glanhau wedi llifogydd
- Cyhoeddwyd

Diffoddwyr yn pwmpio dŵr o ardd ym mhentref Ceri ger y Drenewydd
Mae trigolion mewn rhannau o Bowys yn dechrau'r gwaith glanhau wedi i law trwm nos Wener achosi llifogydd yn eu cartrefi.
Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i Park Avenue yn Ceri ger y Drenewydd wedi i ddŵr lifo i bum tŷ yno nos Wener.
Roedd digwyddiadau eraill yn ardaloedd Ffordun, Trefyclo, Llanfyllin a Threfaldwyn.
Mae rhybuddion gan y Swyddfa Dywydd am law trwm mewn rhannau o ddwyrain Powys yn parhau, ac mae disgwyl tywydd drwg hefyd yn ne-ddwyrain Cymru ddydd Sadwrn.
Daeth adroddiadau am lifogydd hefyd yn Nhreffynnon, Sir y Fflint nos Wener wrth i griw o ddiffoddwyr dreulio dwy awr yn pwmpio dŵr o ffordd yno.
Er hynny mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi israddio rhybuddion am lifogydd yn afonydd Fyrnwy, Tanat, Cain a'u hisafnoydd; afonydd Llynfi ac Ogwr; Afon Ewenni a gorllewin Bro Morgannwg.
Daw'r digwyddiadau diweddaraf yn dilyn wythnosau o dywydd gwlyb a welodd lawer o ddifrod yng Ngheredigion fis diwethaf.
Bu'r Tywysog Charles yn cwrdd gyda rhai a ddioddefodd yn y llifogydd yr wythnos ddiwethaf, ac yn siarad gyda'r gwasanaethau brys fu'n cynorthwyo gdyag ymgyrch i achub pobl o'r llifogydd yno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012