Cerddorfa'r BBC ar y ffordd adre wedi taith lwyddiannus

  • Cyhoeddwyd
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar deledu yn ChinaFfynhonnell y llun, BBC grab from Chinese TV
Disgrifiad o’r llun,

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio ar deledu yn China

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi cwblhau eu taith gynta' erioed yn China.

Roedd y trip 12 diwrnod yn cynnwys chwe chyngerdd o dan arweiniad Thierry Fischer.

Cafodd un o'r cyngherddau ei ddarlledu'n fyw ar sianel deledu'r wlad.

Roedd 2,000 o bobl yn y gynulleidfa yn y neuadd gyngerdd yn Beijing a 6 miliwn arall yn gwylio ar deledu.

Roedd y daith yn rhan o ŵyl ar gelf a chreadigrwydd Prydain yn China, UK Now, a oedd wedi ei drefnu gan y Cyngor Prydeinig.

Bu'r gerddorfa yn chwarae yn ninasoedd Beijing, Shanghai, Shenzhen, Guangzhou a Tianjin.

Roedd yn rhaid i'r 86 o berfformwyr bacio eu hofferynnau gwerthfawr mewn cratiau ar gyfer y trip o amgylch y byd.

Yswirio offerynnau

Cafodd 41 o gratiau arbennig eu defnyddio i gludo'r 277 o eitemau.

"Maw gwerth yr offerynnau tua £2.5 miliwn," meddai rheolwr y Gerddorfa, Byron Jenkins.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r neuaddau lle berfformwyd y Gerddorfa tra yn China

"Roedden nhw wedi eu hyswirio wrth gwrs ond mae'r cerddorion yn bryderus am eu hofferynnau yn naturiol.

"Roedd 'na ryddhad o'u gweld yn cyrraedd y neuadd cyngerdd."

Dyma fydd un o'r cynlluniau olaf i Thierry Fischer arwain y gerddorfa wedi chwe blynedd.

"Dwi wedi mwynhau fy hun yn fawr gyda'r gerddorfa a bydd y cyngherddau yn China yn un o'r uchafbwyntiau."

Fe fydd ei gyngerdd olaf wrth arwain perfformiad o Requiem Berlioz yn ystod Proms y BBC ym mis Awst.

Yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, roedd y croeso'n frwd i'r gerddorfa yn China.

"Dyma gyfle arbennig i gyflwyno'r Gerddorfa i gynulleidfaoedd newydd.

"Mae'r ymateb mor gynnes â chymaint o egni a brwdfrydedd yn y gynulleidfa.

"Hyd yn hyn mae'r daith wedi bod yn un arbennig iawn."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol