Honiadau am '12 gwely gwag' mewn cartre' gofal

  • Cyhoeddwyd
Merched oedrannus
Disgrifiad o’r llun,

Daeth sefyllfa Tŷ Dyfan i'r amlwg wrth i'r cyngor edrych ar sefyllfa cartre' gofal arall yn y sir

Dywed Cyngor Bro Morgannwg eu bod yn ymchwilio i honiadau fod £190,000 y flwyddyn yn cael ei wario gan wasanaethau cymdeithasol ar welyau gwag mewn cartre' gofal.

Mae'r cynghorydd Stuart Egan, yr aelod cabinet â chyfrifoldeb am oedolion, yn honni fod arian wedi cael ei wario ar 12 o welyau gwag "am flynyddoedd lawer" yng nghartre' Tŷ Dyfan yn Y Bari.

Roedd yn beio'r weinyddiaeth Geidwadol flaenorol a dywedodd y byddai'r cyngor, dan arweiniad Llafur, yn ymchwilio.

Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol wedi dewis peidio â gwneud sylw.

Yn ôl y cynghorydd John Thomas, all o ddim dweud unrhyw beth am nad oedd o'n gwybod digon am sefyllfa Tŷ Dyfan.

Gorwariant

Dywedodd y cynghorydd Egan fod 'na honiadau fod 12 o welyau ar gyfer pobl oedrannus a methedig wedi "bod yn wag ers blynyddoedd oedd, yn ôl y sôn, yn costio £190,000 y flwyddyn."

Ychwanegodd: "Mae hyn er gwaetha'r ffaith fod cleifion yn yr ysbyty allai fod wedi bod angen y gwelyau hyn.

"Er ein bod yn gwybod bod pethau'n ddrwg gyda gorwariant o £3.5m ar wasanaethau cymdeithasol y llynedd yn unig, ond doedden ni ddim yn meddwl bod pethau cynddrwg â hyn."

Dywedodd y cynghorydd Egan fod sefyllfa Tŷ Dyfan wedi dod i'r amlwg wrth i'r cyngor ymchwilio i faterion yn ymwneud â chartre' gofal arall, Bryneithin, yn Ninas Powys.

Dim ond un preswylydd sydd 'na ym Mryneithin ac mae'r catre'n cael ei gadw yn agored er ei fod yn costio £450,000 i wneud hynny.

Mae'r cyngor wedi cael eu hannog i benderfynu ar ddyfodol y cartre'.

Dywedodd y cynghorydd Egan: "Rydym hefyd eisiau pwysleisio ein bod yn bwriadu ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio safle Bryneithin ar gyfer darpariaeth gofal i'r henoed, ond mae ein hymchwiliadau'n dal i fynd yn eu blaenau.

"Mae'r mater yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn benderfynol o ddatrys y sefyllfa, yn dilyn ymgynghoriad a thrafodaeth gyda'r gymuned leol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol