Cynllun Gweilch Glaslyn yn nwylo'r gymuned?
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymdeithas er Gwarchod Adar wedi cyhoeddi eu bod yn tynnu'n ôl o safle Gweilch-y-pysgod Glaslyn yng Ngwynedd.
Dywedodd y mudiad nad oedd y penderfyniad yn adlewyrchiad ar waith y staff a'r gwirfoddolwyr a'i fod oherwydd yr angen i ail-flaenoriaethu er mwyn helpu rhywogaethau eraill o dan fygythiad.
Mae trafodaethau wedi dechrau er mwyn perswadio'r gymuned leol i fabwysiadu'r cynllun.
Ers i'r gweilch gyrraedd y safle ger Porthmadog yn 2004 mae dros 180,000 o bobl wedi ymweld â'r safle.
'Yn gyfyngedig'
Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad: "Cafodd y penderfyniad ei wneud yn unig ar sail yr angen i ail-flaenoriaethu ein hadnoddau ...
"Mae rhywfaint o fywyd gwyllt Gymru o dan fygythiad ac mae ein hadnoddau'n gyfyngedig."
Dywedodd hefyd ei fod yn newyddion da bod y gweilch yn gwneud yn dda yn yr ardal ond bod adar eraill, megis y gornchwiglen, o dan fygythiad mawr.
Yn ogystal â nythod y gweilch ar safleoedd Glaslyn a Dyfi, mae tystiolaeth bod nythod eraill wedi sefydlu ac mae hyn yn awgrymu y bydd y gweilch yn parhau i ffynnu heb ymyrraeth gwarchodwyr.
'Diflannu'
"Ond mae poblogaeth rywogaethau eraill fel y gornchwiglen a'r gylfinir wedi dirywio'n arw dros y blynyddoedd diweddar.
"Os bydd y niferoedd yn parhau i ostwng ar yr un raddfa, fe fyddan nhw'n diflannu fel rhywogaeth yng Nghymru yn fuan."
Yn y cyfamser, mae Fforwm Gweilch Glaslyn o blaid gweithio gyda'r gymuned leol.
Gwirfoddolwyr lleol, o dan reolaeth swyddog prosiect Gweilch Glaslyn, sy'n gyfrifol am drefnu diogelwch ar y safle.
Bydd y rôl yn rhan o drafodaethau rhwng y gymuned a'r mudiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012