Efa'n ennill cystadleuaeth celf BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Efa Thomas yw enillydd cystadleuaeth celf BBC Cymru am drefnu arddangosfa yn Amgueddfa Cymru.
Roedd Efa, sy'n wreiddiol o Gricieth, a phedwar cystadleuydd arall ar gyfres deledu 'The Exhibitionists'.
Bu'n rhaid i'r cystadleuwyr ddewis eitemau o gasgliad yr amgueddfa a dysgu sut i'w harddangos.
Dyma'r tro cyntaf i'r amgueddfa roi mynediad i'w holl gasgliad o weithiau celf, gan gynnwys paentiadau, ffotograffau a cherameg i aelodau'r cyhoedd.
"Fe wnes i gymryd rhan yn 'The Exhibitionists' oherwydd dwi bob amser am roi cynnig ar bethau newydd," meddai Efa.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n wych bod yr Amgueddfa wedi rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd.
"Dyma ein hamgueddfa genedlaethol ni ac mae'n perthyn i bob person yng Nghymru."
'Creadigrwydd'
Yn y rhaglen olaf a ddarlledwyd nos Fercher Gorffennaf 18 roedd Efa a Julia Manser o Abertawe, y ddwy yn rownd derfynol y gystadleuaeth, yn cynnal eu harddangosfeydd eu hunain.
Cafodd y ddwy gefnogaeth Osi Rhys Osmond, uwch-ddarlithydd celf ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, a Karen MacKinnon, curadur yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe.
"Mae'r rhaglen, a'r mentoriaid, wedi hybu fy nghreadigrwydd ac wedi fy annog i weithio'n annibynnol a gwneud beth bynnag roeddwn i eisiau," meddai Efa.
"Dwi'n amau a fyddwn i fyth wedi gwneud unrhyw beth fel hyn heblaw am y rhaglen.
"Mae'n dangos ein bod ni i gyd yn gallu bod yn greadigol ac i gyd yn gallu curadu arddangosfeydd sy'n deilwng o gael eu dangos yn Amgueddfa Cymru gan fod gennym i gyd straeon i'w hadrodd."
Mae arddangosfa Efa yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd tan Awst 19.