Adroddiad o blaid moderneiddio'r Eglwys yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen "gweledigaeth newydd," medd adroddiad am ddyfodol yr Eglwys yng Nghymru.
Ymhlith 50 o argymhellion, gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener, mae "ardaloedd gweinidogaeth" fyddai'n adlewyrchu dalgylchoedd ysgolion uwchradd a thîm o glerigwyr a lleygwyr yn eu gwasanaethu.
Byddai'r "ardaloedd" yn lle'r plwyfi.
Argymhelliad arall yw defnydd creadigol o adeiladau eglwys fel y gall yr holl gymuned eu defnyddio, a hyfforddi lleygwyr i chwarae rhan fwy allwedol wrth arwain yr eglwys.
Comisiynodd yr Eglwys yng Nghymru yr adolygiad flwyddyn yn ôl i drafod rhai o'i heriau ac i sicrhau ei bod yn addas i'r diben cyn ei chanmlwyddiant yn 2020.
Ymhlith argymhellion eraill yr adroddiad , dolen allanolmae buddsoddi mwy mewn gweinidogaeth ar gyfer pobl ifanc, datblygu dulliau newydd o addoli i gyrraedd y rhai sy'n anghyfarwydd gyda gwasanaethau eglwys ac annog cyfraniadau ariannol i'r eglwys drwy ddegymu.
Grŵp adolygu
Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, fod dyled yr eglwys i'r grŵp adolygu'n "enfawr".
"Mae'r grŵp wedi deall llawer iawn o wybodaeth amdanon ni fel eglwys mewn cyfnod byr ac wedi gwneud sylwadau ac argymhellion craff a threiddgar iawn.
"Rwyf hefyd yn ddiolchgar i aelodau'r Eglwys yng Nghymru, y bu nifer fawr ohonyn nhw'n ymwneud yn frwdfrydig â'r broses.
'Ystyriaeth'
"Bydd rhaid i ni fel eglwys roi ystyriaeth ddifrifol i'r adroddiad hwn a'i argymhellion o'r plwyf i fyny i'r dalaith a phenderfynu ble i fynd oddi yma."
Dywedodd cadeirydd y grŵp, Yr Arglwydd Harries: "Canfu'r tîm adolygu fod yr Eglwys yng Nghymru yn gynnes a chroesawgar a bod llawer o bethau da'n digwydd.
"Ond er mwyn gwasanaethu pobl Cymru'n effeithlon, yn arbennig ei phobl ifanc, credwn fod angen peth ail-feddwl pellgyrhaeddol."
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gorff Llywodraethu yr Eglwys er mwyn ei ystyried.
Aelodau'r grŵp adolygu oedd: Yr Arglwydd Richard Harries o Bentregarth, cyn Esgob Rhydychen (cadeirydd, Yr Athro Charles Handy, cyn athro yn Ysgol Fusnes Llundain, yr Athro Patricia Peattie, cadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Ysbytai Prifysgol Lothian a chyn Gadeirydd Pwyllgor Sefydlog Eglwys Episcopaidd Yr Alban.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012